Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

celfydd

celfydd

Sefydlodd cyfres deledu gyntaf Owen Money ar gyfer BBC Cymru, American Money, y seren o BBC Radio Wales, fel cyflwynydd teledu poblogaidd a oedd yn amlwg yn mwynhau ei hun, ac roedd Whole Lotta Money yn gyfuniad celfydd tebyg o hiwmor a cherddoriaeth roc.

Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.

Mae ymdriniaeth yr awdures o'r pynciau hyn yn ddigon celfydd.

Roedd hynny a'r actio celfydd yn rhoi pleser a mwynhâd.

Bydd cyffyrddiadau cynhyrchu celfydd fel yna yn aros yn y cof am hir.

Oherwydd yr oeddwn yn ddeg ar hugain oed cyn dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif, a chan na chefais y fraint o gael fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, nid oes gennyf mo'r reddf na'r hyder sy'n anhepgor i un a fynnai arfer iaith yn y modd mwyaf celfydd sydd, sef i wneud cerdd.

Mêr esgyrn y negro druan lanwodd eich cypyrddau â llestri drudfawr o aur, arian, a china - gwaith dwylaw celfydd celfyddwyr blaenaf Prydain ac Ewrop - a huliodd eich byrddau a'r danteithfwydydd brasaf, a'ch selerydd â gwinoedd mwyaf blasus gwinllanau Ysbaen, Portiwgal, a Champagne.