Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cell

cell

Felly, treuliais weddill y dydd a hanner y nos mewn cell yn nhwlc Aberteifi.

'Roedd e'n gapten yn erbyn y Barbariaid ond yn cael ei anfon i'r cell callio am ymladd gyda Charles Riechelmann.

Rwyf hefyd yn gyfrifol am baratoi rhestrau aelodaeth (fesul rhanbarth, cell, coleg, ysgol ac ati) a labeli aelodaeth yn ôl y galw.

Mae proteinau yn bwysig ym mhob rhan o fywyd; maent yn rhan o'r strwythur, yn bresennol ym mhob cell fyw, ac yn brif ddefnydd yn y croen, y cyhyrau, y gewynnau y nerfau a'r gwaed.

Oddi mewn i bob cell fyw mae DNA - y llinyn o wybodaeth enetig sy'n cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf.

Y mae'n bosibl ei bod wedi trigo mewn cell meudwy ar Ynys Llanddwyn, Sir Fôn, rywbryd yn y bumed neu'r chweched ganrif.

Cyn bo hir bydd tudalen gerddoriaeth yn niffyg unrhyw sylw gwerth chweil gan y cyfryngau Cymraeg eraill, a thudalen yn canolbwyntio ar un cell/rhanbarth pob rhifyn.

Yr oedd tri diwrnod mewn cell hanner-tywyll ar fara-a-dþr yn ormod o gosb am edrych ar wyneb merch.

Yn y cudynnau hyn mae'r silia yn tarddu o gell sengl sy'n amgau cell chwarren.

Mi fydd e yno bob bore, cei fentro, mor ddiogel, mor ddigyffwrdd a gŵr condemniedig mewn cell yn disgwyl ei ddienyddiad.'

Gan mai Enlli oedd yr unig ferch, rhoddwyd hi mewn cell ar ei phen ei hun.

Dôi'r Caplan unwaith yr wythnos heibio i bob cell i holi carcharor am gyflwr ei enaid ac edrych ar ôl ei fuddiannau ysbrydol.

Bu Cell Colegau Aberystwyth am dro o amgylch banciau a chymdeithasau adeiladu'r dref ychydig yn ôl (Dydd Mercher, Tachwedd y 1af) i weld os oeddynt yn gweithredu polisiau dwyieithog llawn.

Ac am dreulio cyfnod mewn cell, wel, dyna'r dasg hawsaf ohonyn nhw i gyd.

Mae Cell Gogled Cerdigion wedi bod yn ystyried pa fath o wrthwynebiad ellid ei ddangos i 'r ymweliad brenhinol.

Elin Haf Gruffydd Jones, ysgrifennydd Cell Gogledd Ceredigion ac aelod o Grwp Democrat­iaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n gosod her i'r Cynulliad, sef bod yn sefydliad cenedlaethol gweithredol dwyieithog.