Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

celloedd

celloedd

Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.

Os bydd un siliwm sengl hir yn gysylltiedig a'r cudyn silia, bydd bob amser yn codi allan o gell sengl sy'n ffinio ar y clwstwr celloedd.

Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.

Ni fydd hyn yn tanseilio hawl ein celloedd lleol a'n rhanbarthau i drefnu ymgyrchoedd i amddiffyn buddiannau cymunedau lleol yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd canolog yn yr ardal.

Tra bu i rai o leisiau amlycaf yr adain chwith megis Gudrun Ensslin ac yn ddiweddarach Ulrike Meinhof droi at drais, yr ateb i eraill oedd ffurfio celloedd unigol lle dôi criw bach at ei gilydd i drafod theori chwyldroadol.

Rhaid ei fod yn effeithio ar y celloedd yn y corff oedd yn gyfrifol am gynhyrchu gwrthgyrff i'r trychfilyn ei hun ac i drychfilod eraill, boed firws, bacteria neu ffwng.

Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.

Y rheswm am y cochni yw'r siwgr yn y celloedd.

Ymhellach, niwronau primiaidd yw'r celloedd hyn ac maent yn parhau ar hyd y llafn gwaelod fel acsonau i ymuno a'r nerf sy'n rhedeg ar hyd pob tentacl.

Byd y celloedd hyn yn lluosogi'n gyflymach na chelloedd cyffredin ac felly cant eu heffeithio mwy nag y bydd celloedd normal.

Archwiliwyd perthynas y gwahanol grwpiau hyn o silia a'r celloedd gwaelodol, gan ddefnyddio'r microscop electron trawsyriant.

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

Y peth mwya tebygol ydi bod un o'r gweision wedi gadael drws y celloedd heb eu cloi, a'u bod nhw wedi llithro allan a chael hyd i guddfan mewn rhyw fwthyn dinod yng nghanol y goedwig.

Mewn gwaith therapiwtig dymunir lleihau nifer y celloedd gorwithgar neu adwythig.

Mewn gwirionedd dim ond ychydig tu draw i flaenau microfili y celloedd yr ymestynant.

'Y dasg ola fydd treulio cyfnod o amser yn y celloedd, yn y clinc.

Fe wyddom am y modd y mae'r cylchedau micro a dyfeisiadau tebyg wedi dylanwadu ar ein ffordd o fyw yn yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae'r datblygiadau presennol ym myd microbrosesyddion, celloedd solar ac electroneg optig, er enghraifft, yn awgrymu y bydd cymaint, os nad mwy, o newid yn yr ugain mlynedd nesaf.

Chlorophyll y celloedd yn y ddeilen sy'n newid ei liw.