Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.
Priododd yntau; a disgynnodd ar unwaith yng nghanol trafferthion hollol newydd iddo - amaethu tyddyn mynyddig, digon drud, a magu tyaid o blant, ymwneud â masnach ansefydlog a phorthmyn celwyddog.
Yr oedd yn fedrus yn ei grefft, ond yn fwy medrus fyth yn y grefft o ddweud storiau celwyddog.