Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cemais

cemais

Ond, fe all cemais hefyd gyfeirio at droadau mewn afon mewn ardal sydd ymhell o'r mor.

Cyfeiria'r enw Cemais yn Sir Drefaldwyn o bosib at ddolennau ar Afon Dyfi.

Fe ddigwydd yr elfen cemais mewn cyfuniad ag elfennau eraill mewn enwau lleoedd weithiau.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Cemais I mi, pentref glan mor ar arfordir gogleddol Mon yw Cemais, ond y mae'r enw hwn hefyd yn digwydd mewn nifer o fannau eraill yng Nghymru ar yr arfordir ac ar lawr gwlad o Feirionydd i Drefaldwyn ac o Benfro i Fynwy.

Fodd bynnag nid Cefnfaes oedd ffurf wreiddiol yr enw Cemais fel yr awgrymodd rhai a nid oes a wnelo'r enw a'r gair maes.

Pan ddigwydd Cemais yn enw lle ar neu ger yr arfordir, yna cyfeiria at gilfachau ar yr arfordir.