Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cenedlaethdol

cenedlaethdol

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.