Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cenedlaetholwyr

cenedlaetholwyr

Eithr lladdwyd yn giaidd ar y cenedlaetholwyr fel ffasgwyr neu ramantwyr penchwiban.

Dim ond gelynion Cymru a Chymreictod sy'n honni y buasai'r cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydweithredu'n llon â'r Ellmyn petai lluoedd Hitler wedi goresgyn Prydain.

Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf.

Cyhuddir cenedlaetholwyr yn fynych o ddymuno rhannu yn hytrach nag uno, gan bobl a ddywed, "Angen y byd yw undeb, nid mwy o raniadau%.

'Does dim byd mwy annymunol na gwled cenedlaetholwyr Seisnig ar gefn eu ceffyl.

Mae'r glowr ar hyd y blynyddoedd wedi'i gam-ddarlunio oherwydd rhamant rhamant cenedlaetholwyr, sosialwyr a chrefyddwyr ymhlith eraill.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, cenedlaetholwyr Cwrdaidd a'u cefnogwyr yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth Llafur Llundain a'i bwriad i roi cymorth economaidd i wladwriaeth Twrci adeiladu argae a fydd yn golygu boddi ugeiniau o bentrefi Cwrdaidd.

Gwelwyd hyn ychydig amser yn ôl pan geisiodd y cenedlaetholwyr berswadio Cyngor Dyfed i gael sistem gyfieithu ar y pryd.

Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.

Cenedlaetholwyr Ffrainc yw'r blaid geidwadol yno, plaid Charles Maurras a'r Action Francaise.

Mae'n wir fod Cymry ifanc wedi anfon adroddiadau yn ôl o Ffrainc pan oedd cenedlaetholwyr Llydewig yn cael eu herlyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond eithriadau oedd y rheiny hefyd - pobl yn gweithredu am reswm gwleidyddol, penodol yn hytrach nag er mwyn stori.

Cenedlaetholwyr Albanaidd, yr SDP, yn ennill eu sedd seneddol gyntaf ers 1945 pan enillodd Winifred Ewing is-etholiad Hamilton.

Gweld urddas a balchder rhai o'r cenedlaetholwyr yn wyneb caledi ail-enedigaeth gwlad; sylwi ar siacedi lledr a bysedd modrwyog cyfoethogion y farchnad ddu; clywed recordiau Americanaidd yn dôn gron ddiddiwedd ar radio gyrrwr ein car.

Bu+m mor fentrus adeg yr Ail Ryfel Byd â defnyddio'r gair 'cenedlaetholwyr' wrth gyfeirio at Iesu o Nasareth a Phaul o Darsus.

Daeth Rhyfel Cartref Sbaen i ben gyda buddugoliaeth i Franco a'r Cenedlaetholwyr.

Mae'r camau diweddaraf hyn wedi uno cenedlaetholwyr o bob math gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol, ynghyd â mudiadau eraill, yn cynnal protest enfawr yn Donostia yn erbyn y penderfyniad i gau'r papur newydd.

Dyma'r math o drefn yr amcana'r cenedlaetholwyr mewn llawer gwlad at ei chreu.

Hwy oedd y 'cenedlaetholwyr diwylliannol' ymhlith offeiriaid yr Eglwys yng Nghymru, a bu Thomas Burgess yn gefn pwysig iddynt.