Gyda dim ond ffin eang ac agored rhyngom a helaethrwydd Lloegr, y mae union natur cenedligrwydd yn peri penbleth.
Nid gwir genedligrwydd sydd yn bod yma ond, 'dichonoldeb cenedligrwydd'.
Prydeinig bellach oedd cenedligrwydd cyfreithiol y Cymry.
Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.
O ran cenedligrwydd cyfreithiol, Saeson oedd y Cymry yn awr, er i'r cof am wlad a chenedl ar wahân gael ei gadw'n fyw gan yr ymadrodd "Lloegr a Chymru%.
Canys yn y fan yr ysgarwyd rhwng ein gofod a'n gorffennol yr erthylwyd ein cenedligrwydd ac nid ydyw dwyn pobl yn ôl i ŵydd eu cwmwl tystion yn dasg amhosibl .
Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.
Pan geisir olrhain dysgeidiaeth yr Hen Destament ar gwestiwn cenedl, deuir wyneb yn wyneb â'r broblem a drafodir ymhob ymgais i ddadansoddi hanfod cenedligrwydd, sef y gwahaniaeth rhwng 'pobl' a 'chenedl'.
Er cryfed yr ymlyniad wrth yr arglwydd, boed hwnnw'n frenin neu'n Dywysog Cymru neu'n ŵr mawr o Norman, anodd osgoi'r casgliad fod ymhlith y Cymry ymwybod cryf iawn hefyd â'u cenedligrwydd ac â'r ffaith eu bod bellach yn genedl orchfygedig a than orthrwm.