Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cenhadaeth

cenhadaeth

Cawn gyfle hefyd i ddeisyf arweiniad Duw ar y ffyrdd priodol i adnewyddu ein gwasanaeth a'n cenhadaeth iddynt.

Roedd y cynefindra'n deillio o ddylanwad dwfn cenhadaeth Presbyteriaid Cymru ar bobol y tir hwn yn y ganrif ddwetha a hanner cynta'r ganrif hon.

Cenhadaeth Coleg Ceredigion yw gwneud cyfraniad tuag at ddatblygiad addysgol, cymdeithasol ac economaidd y gymuned trwy ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd ym myd addysg a hyfforddiant.

Y bryniau hynny oedd maes y cenhadon y casglwn innau ac eraill o blant yr Ysgol Sul geiniogau i gynnal eu cenhadaeth.

Yn lle derbyn cenhadaeth o weithio gyda'i gilydd i wella ysgol eu pentref, anogir rhieni i ystyried eu plant fel tuniau o ffa pob a 'siopa o gwmpas' am y del gorau.

Mae'n sylweddoli fod yna gyfnewidiadau mawr yn digwydd yn Rwsia ar hyn o bryd ac mai profiad o ddiwylliant ac amgylchiadau pur wahanol sydd yn ymaros pob un ohonynt, ond fel cenhadon hedd maent yn ffyddiog yn eu cenhadaeth ac yn diolch am y cyfle, a'r fraint o fod yn rhan o'r gwaith, a'r gweithlu.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.