Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cenhadon

cenhadon

Anfonwyd cenhadon Cristnogol o Gâl, Sbaen a'r Almaen.

'Oni chymer (Pengwern) seibiant,' medd Roberts, 'ni welaf sut y medr ymuno â ni mewn pwyllgor o'r cenhadon na sasiwn eto.'

Gadawodd y cenhadon eu hôl yn ddigamsyniol ar y Casiaid, ac mae olion eu heefengylu brwd i'w canfod o hyd yn yr eglwysi, yr ysgolion, a'r ysbytai, heb sôn am barlyrau lle cenir 'Mae gen'i dipyn o dž bach twt' a lle bwyteir bara brith ac yfed te o lestri sabothol yr olwg.

Y bryniau hynny oedd maes y cenhadon y casglwn innau ac eraill o blant yr Ysgol Sul geiniogau i gynnal eu cenhadaeth.

Daeth cenhadon eraill dros y môr, heb gyffwrdd â Gwent - Carannog a Phedrog o Ffrainc, yna ymlaen i sefydlu eglwysi yn Llangrannog a'r Ferwig felly hefyd Cybi o Gernyw i Langybi.

Anerchwyd a dangoswyd sleidiau am eu gwaith yn Zaire gan Mr a Mrs Mellor Treffynnon a fu'n gwasanaethu fel cenhadon yn y wlad honno.

Yn ne ddwyrain Cymru y cafodd y ffydd newydd fwyaf o afael ar y dechrau, ac oddi yno y daeth rhai o'r cenhadon (y seintiau) cyntaf.

Mae'n sylweddoli fod yna gyfnewidiadau mawr yn digwydd yn Rwsia ar hyn o bryd ac mai profiad o ddiwylliant ac amgylchiadau pur wahanol sydd yn ymaros pob un ohonynt, ond fel cenhadon hedd maent yn ffyddiog yn eu cenhadaeth ac yn diolch am y cyfle, a'r fraint o fod yn rhan o'r gwaith, a'r gweithlu.