Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cenhedlaeth

cenhedlaeth

Eisoes, cynhwysai'r grŵp bychan o swyddogion ac aelodau'r pwyllgor rai a ddeuai, ymhen amser, yn llenorion Cymraeg praffaf eu cenhedlaeth ac yr oedd natur y Blaid fel mudiad iaith a diwylliannol yn amlwg.

Nawr gall tair cenhedlaeth fwynhau trysorau Llyfr Mawr y Plant yn y Mileniwm nesaf a rhannu'r profiad darllen unigryw hwn unwaith eto.

`Mae undod Arabaidd yn dibynnu ar genhedlaeth newydd'; `Ni yw'r genhedlaeth i wneud hyn oherwydd ni yw cenhedlaeth y dicter'; `Rhaid i ni gael chwyldro i ennill rhyddid i'r byd Arabaidd'; `Dylai America losgi yn uffern'.

Fe'n sobreiddiwyd braidd o sylweddoli na fu'r newid yn gyfangwbl er gwell er gwaethaf datblygiadau technegol a oedd y tu draw i ddychymyg cenhedlaeth Gwyn Erfyl o wneuthurwyr rhaglenni.

Ond yr oedd tipyn o anghydweld rhwng y De a'r Gogledd (fel y bu am dair cenhedlaeth) ynglŷn a'r man cymwys i leolir athrofa.

'Ni yw'r genhedlaeth i wneud hyn oherwydd ni yw cenhedlaeth y dicter.'

Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld sawl cenhedlaeth o sloganau - o "Eryr Gwyn Eryri% a "Cofia Dryweryn" i "Meibon Glyndwr" a "Deddf Iaith yn Awr" ein dyddiau ni.

Y mae'n galondid mawr gweld cenhedlaeth newydd o ysgolheigion ifainc yn ymgodymu â hanes Cymru, ac â hanes Cristionogaeth yng Nghymru'n neilltuol.

Mae cenhedlaeth newydd o wyddonwyr Cymraeg bellach sy'n ystyried trafod gwyddoniaeth yn Gymraeg mor naturiol ag anadlu.

Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.

Y mae gweddill sylweddol iawn yng Nghymru na phlygodd i dduwiau poblogaidd ein cenhedlaeth ac a arhosodd yn ffyddlon i wirionedd yr Efengyl.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Cododd cenhedlaeth yn y Gymru ddiwydiannol Seisnigedig heddiw sy'n amharod i gydnabod lle'r capeli a'r iaith yn ffurfiant cymdeithas eu rhan hwy o'r wlad.

Defnyddiwyd Y Gododdin , Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.

O gynnwys Eric, wyr bach Jane Gruffydd sy'n dod ati hi fyw, mae pum cenhedlaeth yn dod i mewn i'r hanes, a champ y nofel yw'r modd y mae'n dangos bywydau'r rhain yn gorgyffwrdd ac yn effeithio ar ai gilydd (thema amlwg yn ei straeon diweddarach, fel 'Gwacter' yn y gyfrol Gobaith).

Arferai hawlio ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd nad oedd yn gwneud dim ond dilyn yr hen dadau Methodistaidd yr oedd cenhedlaeth ei dad wedi gwyro oddi wrth eu dysgeidiaeth.

'Roedd atal y Gadair a'r Goron yn broffwydol o feddwl fod cenhedlaeth arall ar fin cael ei haberthu ar allor Rhyfel.

Hwn fu man gweithgarwch y teulu am bedair cenhedlaeth wrth drafod yr un priddyn, a phob un am ragor ar y rhai a aeth o'i flaen.

Mae'r Rhyfel yn gwaedu yn y cof o hyd, a chenhedlaeth yn cofio cenhedlaeth.

Mae hwn yn glasur ac yn trafod hanfod Cristnogaeth mewn modd sy'n gwbl glir hyd yn oed i'n cenhedlaeth ni.

Ni sy'n gweld chwithdod y sefyllfa honno, nid cenhedlaeth Elfed; gweld yr angen am hyrwyddo'r Saesneg a wnaent hwy ynddi, nid gweld troi cefn ar y Gymraeg.

Y mae cenhedlaeth ohonom yn fyw heddiw sy'n cofio cyfnod cannwyll yn y lloft, lamp olew yn y gegin, mawn yn y grat, ty bach ym mhen yr ardd, ceffyl yn y stabl, a siop bob peth yn y pentref.

Ond byth oddi ar y diwrnod hwnnw, bu gennyt dy dystion ym mhob cenhedlaeth.

Defnyddiwyd Y Gododdin, Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.

Dynion â dawn unigryw i gyfarch cenhedlaeth neilltuol o bobl mewn cymdeithas arbennig yw areithwyr mawr.

Ys dywed Kenneth Morgan, "...(a dynnwyd o'r werin)'." I'r gweithwyr, bu capeli ymneilltuol am dair neu bedair cenhedlaeth yr hyn yw clybiau ein cyfnod ni iddynt.

Os yw'r awdur yn gallu creu darlun digon cryf o ofnau mewnol dyn, yna mae hi'n bosibl dehongli'r myth hwnnw yn berthnasol i bob cenhedlaeth.

Hon oedd cenhedlaeth y bilsen a'r ddeddf erthylu.

Mae hynny'n golygu fod cenhedlaeth yn codi sy'n hynod anwybodus am y Beibl a'i athrawiaethau ac am y traddodiadau Cristionogol sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd mor gyfoethog at fywyd Cymru.

Os oedd hyn yn wir, yr oedd yn ddigon i gyfrif am bob anfoesoldeb arall, gan fod pob cenhedlaeth yn derbyn ei safon foesol i raddau helaeth oddi wrth y mamau a'i magodd.

Ar y cyfan, maent yn parhau'n Saeson, ond yn amlach na pheidio y mae eu plant hwy yn datblygu'n ddosbarth arall o Gymry, yn siaradwyr Cymraeg cenhedlaeth gyntaf.

I'n cenhedlaeth ni yng Nghymru, sy'n rhoi bri ar ryddid pobl i wneud fel y mynnont mewn materion moesol, y mae bron y tu hwnt i ddirnadaeth sut y gallai corff o bobol fabwysiadu'n wirfoddol gyfundrefn sy'n ymddangos i ni'n orthrymus.

Yr oedd gwich Ms Wright yn un o ddau beth a ddigwyddodd yn ddiweddar i beri im cenhedlaeth i ymhyfrydu yn y ffaith nad ydyn nhw'n sgwennu caneuon fel yna mwyach.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Dangoswyd hyn gan stori wir am weddw'r ffermwr defaid o Sir Gaernarfon y bu ei deulu yn ymwneud a threialon cŵn defaid am sawl cenhedlaeth.

Dyna dair cenhedlaeth wedi edrych ar ol yr un capel (peth pur anghyffredin ynte?) Yn y ty uchaf un fe gofiaf ddwy chwaer yn byw.

Dysg ein cenhedlaeth ni i fawrygu'r fraint honno gan ddiogelu ffrwythlonder y ddaear a chydnabod mai dy drefn Di'n unig a sicrha degwch i blanhigion ac anifeiliaid ac i blant dynion.

Gwelwch fod yna dair cenhedlaeth uniongyrchol yn dwyn yr enw Elis yn y teulu yma.

Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o'u gwahanrwydd, a defnyddio gair J R Jones, fel Cymry.