Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.
Yn ol un chwedl yr oedd Elen Luyddog yn teithio trwy Gwm Croesor pan ddaeth cennad ati a dweud wrthi fod mab iddi wedi cael ei ladd ger Castell Cidwm, Betws Garmon.
Nid athro wrth-ei-swydd ger desg gaeth a darllenfa gyfyng ydoedd, ond cennad dysgedig a oedd yn barod bob amser i ddarlithio i gynulleidfaoedd bach a mawr ym mhob man.
Hyd yn oed o bell awgrymai coethder a lliw harnais y camelod fod y bobl ddieithr hyn yn abl i dalu, argraff a gadarnheid gan feinder y defnydd gwlân a wisgai eu cennad.
Rhoes Waldo deyrnged i'w dad yn 'Y Tangnefeddwyr' Mae Gwirionedd gyda 'nhad meddai yn y pennill olaf, ac yn y trydydd, Angel y cartrefi tlawd Rhoes i 'nhad y ddeuberl drud : Cennad dyn yw bod yn frawd, Golud Duw yw'r awel fyd.
Mae'n debyg mai oherwydd ei hamlygrwydd fel cennad tymor y tyfiant yr enwyd cynifer o blanhigion ar ei hol, rhai sy'n blodeuo tua'r un pryd ag yr ymddengys hithau'n lledrithiol yn ein mysg.
Megis y daeth cennad ar ffurf alarch wen o'r nef, yn ehedeg o'r man lle y machludodd yr haul, i ddweud wrth Anatiomaros yng ngherdd T.
Williams, Cennad Archesgob Cymru, nad oedd gan y mwyafrif gyfalaf ysbrydol yn gynhaliaeth iddynt yn nydd y prawf.