'Tasa'r drws 'na'n agor rŵan, fedrach chi ddim cerddad allan drwyddo fo heb dynnu sylw hanner y byd.'
Mae hi reit i fyny yn dop y dre, a wedyn mi oedd raid i ni gychwyn yn gynnar, wrth bod 'na dipyn o waith cerddad.
Mi oedd o'n beth rhyfadd i mi, cerddad drwy un stryd i un arall, ac un arall wedyn - heb olwg o goedan na gwrych yn nunlla.
Ddaru hi fygwth y basa'n rhaid i ni gychwyn cerddad.
"Un bora," meddai..., "ron i'n cerddad hyd y cae a dyma 'na sgwarnog yn codi o 'mlaen.
Ar ôl cerddad y stryddoedd nes yr oeddwn i wedi mynd yn soldiwr, mi gefais hyd i siop bys arall.
Cerddad wnaethon ni i draeth y Foryd, i lawr drwy Bont a Llanfaglan, ac er ei bod hi'n reit oer pan gychwynnon ni, erbyn i ni gyrraedd Eglwys Llanfaglan mi oedd yr haul yn twnnu'n braf a minna'n gweld y môr ymhell o'n blaena' ni'n las, las, las.
Tynnu'n coes ni oedd hi mewn gwirionedd, achos cerddad cyn bellad â'r Hen Eglwys ddaru hi - er mwyn i ni gael hel cocos cyn dŵad adra.