Cerddai fel pe bae ar awyr.
Erbyn hyn cerddai ar ddaear wastad, y bêl yn gwmni iddo o hyd er ei bod wedi codi'n uwch.
Cerddai fel dyn meddw a theimlai fel pe byddai ar syrthio i bwll o dywyllwch diwaelod.
Un diwrnod, cerddai ar stryd yn yr East End enwog yn myfyrio uwch ei thynged.
Yr ail beth oedd ymateb yr ymgeisydd i bêl rygbi a gâi ei thaflu ato fel y cerddai i mewn drwy'r drws i'r cyfweliad.
Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.
Cerddai yn gyson, haf a gaeaf, o Fron-y- graig i Gefn Brith i gadw Seiat.
Ie, fel yna y cerddai i mewn i'r ystafell-fwyta.
Bore trannoeth cerddai yn ôl ac ymlaen y tu allan i'r siop, gan feddwl y byddai'n cael dechrau am hanner awr wedi chwech er mai hanner awr wedi saith oedd yr amser a drefnwyd.
Cerddai'n araf, ei llygaid yn llawn dagrau wrth feddwl am yr holl galedi oedd wedi ei gyrru i'r fan hon a'r fath gyflwr.
Cerddai gydag ymyl y muriau drwy'r nos.