Ymysg galwadau diweddar bu Cerddorfa Symffoni Detroit, Cerddorfa Symffoni Dallas, Cerddorfa Ffilharmonig Newydd Japan, Orchestre Philharmonique de Radio France, Cerddorfeydd Symffoni Radio Hamburg a Cologne, Cerddorfa Genedlaethol Rwsia, a Camerata Academica Salzburg.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei chyfrif yn un o'r goreuon ymysg cerddorfeydd symffoni gwledydd Prydain.
Mae wedi ennill tair Gwobr Gramophone, Grammy (am Peter Grimes), Gwobr Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain am wasanaethau i Gerddoriaeth Prydain, Gwobr Syr Charles Groves a Gwobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus Coleg y Frenhines Caergrawnt.
Bu cerddorfeydd mewn llawer capel yng Nghymru a cheir ambell gapel wedi ei adeiladu gyda lle i gerddorfa o flaen y sêt fawr.