Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cha

cha

Ni châi diwydiannau ysgafn a glanach ddatblygu yma rhag ofn y denent ei gweithwyr oddi wrth y diwydiannau glo, dur, haearn, alcam ac ati.

Ni châi yn awr ymorffwys yn y nos.

Ni châi gwragedd fynd i brifysgol na bod yn offeiriaid nac yn feddygon.

Yr oedd y peilotiaid eraill yn drist iawn wrth feddwl na châi o chwarae rygbi na llywio awyren byth wedyn.

Yn y ganrif ddiwethaf cododd y mudiad rhamantaidd ei chân gan glodfori y mynyddoedd ac unigeddau Cymru.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

A châi hithau fynd â Gwenan i'r pwll nofio.

Gyda chân rap, er enghraifft, roedd rhaid i'r oedolion gydnabod fod y bobol ifanc yn gwybod mwy na nhw.

Chân nhw ddim ein sgubo ni o'r neilltu a dwyn ein holl eiddo ni.

Gan weiddi a chwifio'i freichiau, ymbiliodd dros y miloedd o Kurdiaid a fyddai'n marw oni châi'r lluniau eu dangos yn y Gorllewin.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Mi o'n i wedi meddwl cael mynd am dro i weld y dre, ond mae hi wedi deud na cha i ddim mynd os na fydd hi ne' rhywun arall hefo fi, rhag on i mi fynd ar goll.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Trodd fwyfwy at werthu llyfrau ac almanaciau, ac wrth gwrs byddai'n galw heibio llawer o dafarnau a châi ei gymell i yfed yn ddieithriad ar y dechrau:

Mynd â'r Betsan 'na adre, debyg, ond 'châi hi ddim gwybod dim gynno fo, er iddi gwyno a phregethu ar hyd y ffordd adre.

Mi ro' i air da drostat ti ac ella wedyn newidith hi ei chân a'th adael dithau i mewn.

Onid oedd y Times ei hun ar ôl ymweliad â'r Albert Hall wedi bendithio llên a chân y Cymry am ei bod yn amlwg fod y Gymraeg yn ildio'n flynyddol ' ...' .

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Ar y llaw arall, oherwydd cysylltiadau eang y golygydd deuai cynrychiolaeth deg o Gymru gyfan i mewn i'r Ymofynnydd, drwy erthygl a chân, sylw neu lythyr, gan ei wneud yn gyfoethog ei syniadau ac eang ei orwelion.

Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.

Ni châi ymwelwyr na phapur newydd na llythyr na chyfeillachu â neb - a bwyd arbennig!

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Iaith ein cartref ydwyt hefyd, Iaith aelwydydd Cymru lân, Yr wyt ti'n gwresogi bywyd Mewn diareb bêr a chân; Hoffwn di - wyt athronyddol - Ond wyt fwy na hyn i ni: Wyt in' calon yn naturiol, Caniad cartref yw dy si.

Y maent yn ddiweddar yn codi a chânt eu cario i'r Ysgol; y maent yn chwarae gemau cyfrifiadurol, yn gwylio'r teledu, ac yn aros i fyny'n hwyr y nos.

Ond roedd yn anodd bellach i adael Bethlehem; doedd yr un car yn cael mynd allan o'r dref oni châi ei archwilo yn gyntaf a derbyn sÚl bendith milwyr y rheolfa wrth iddo fynd i mewn i'r dref.

o'i gael yn euog ar gyhuddiad o ddwyn arian o anedd-dy, dderbyn y gosb eithaf, ond yn fwy tebygol, derbyniai bardwn am ei drosedd a châi ei anfon i Awstralia am ei oes.

Dechreuodd balchder gorddi Pamela a phenderfynodd na châi neb dorri cwrls hardd ei genethod a'u gwneud i edrych fel plant oedd yn cardota ar y plwyf.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Dim llythyr oddi wrth ffrind na châr, ac ychydig iawn, iawn o lyfrau i'w darllen.

Roedd yn gyngor buddiol, ac fel rheol ni châi unrhyw drafferth i ofalu bod ei phen yn rheoli'i chalon.

Doedd byw na bod na châi weld y tþ newydd oedd ar fin cael ei orffen.

Erbyn hyn, penderfynwyd na châi erlyn ddim pellach oherwydd iddo gael ei garcharu am oes am y llofruddiaeth: fe'i galwyd yn dyst yn erbyn Sidley, nad oedd eto wedi cyfaddef i ddim.

Gofalodd y golygydd hefyd, yn ôl ei ddiffiniad o swyddogaeth cylchgrawn crefyddol, na châi'r mudiad fod yn 'fud a diamddiffyn' tra bo byw'r Ymofynnydd.

Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.

Gwnâi ambell englyn a chân hefyd i foddio ei hun.

Ni châi Myrddin Tomos weled yr un ferch mwy am yn agos i ddwy flynedd.

RHEOLI GWASTRAFF: Gall is-gynhyrchion cloddio mwynau gael effeithiau andwyol sylweddol os na chânt eu hail-ddefnyddio, eu hail-brosesu neu eu gwaredu'n ddiogel ac mewn modd heb fod yn rhy amlwg.

Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.

Aeth mor bell â chynllwynio yn erbyn ei gwr fwy nag unwaith os na châi ei ffordd.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .

A cha'l ych talu am job arall.