Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chadarn

chadarn

Nid adeiladwyd porthladdoedd mor sylweddol a chadarn â rhai heddiw ers talwm, ac erbyn hyn mae llawer ohonynt hwythau wedi eu dinistro neu wedi'u gorchuddio â thywod a llaid.

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

Yn Nyfed, er enghraifft, ni fu polisi iaith cynradd clir a chadarn gan yr awdurdod addysg.

Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

Fel arfer, mae'r anifeiliaid hyn yn rhai caled a chadarn sydd yn medru ffynnu ar diroedd gwael a mynyddig y wlad.

Byddai clewtiau o hen ragiau di-siâp o'r domen yn ffitio'u lle i'r dim ac yn cloi i'w gilydd yn daclus a chadarn.