ê'r llygoden a Chadog a'r ysgolhaig i ystafell danddaearol yn llawn gwenith ac felly fe derfynir y newyn.
Yn hanes Maelgwn dallwyd ef a'i wŷr gan golofn niwl a aeth gyda Chadog, ac yn hanes Rhun fe'u dallwyd gan fwg a godai o ysgubor y ceisiai gwŷr Rhun ei llosgi.
Ym Muchedd Cadog fe geir dadl rhwng Arthur a Chadog am wartheg yr oedd yn rhaid i'r sant eu talu i'r brenin.