Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chafwyd

chafwyd

Wedi misoedd o baratoi llanwyd y capel i'r ymylon a chafwyd hwyl ysgubol arni.

Cafodd Chris Summers gôl i Ferthyr ddeng munud cyn y diwedd, ac er i'r ddau dîm gael cyfleoedd yn y diwedd ni chafwyd gôl arall.

Er croesi ohonynt i'r lan arall, fel y gwyr y rhai sy'n hen gyfarwydd â'r hanes hwn, ni chafwyd mo'r encil na'r egwyl angenrheidiol am fod y tyrfaoedd wedi achub y blaen arnynt, ac ar y lan arall yn eu disgwyl.

Cyrhaeddwyd Dun Laoghaire yn gynnar a chafwyd trên ar unwaith i'w cyrchu ar draws yr ynys i Galway yn y gorllewin.

Ond yn raddol daeth tro ar fyd a chafwyd blas, unwiath eto, ar berfformio a chystadlu.

ETHOLIAD SWYDDOGION Cyhoeddwyd na chafwyd ond un enwebiad yr un am y swyddi dwy flynedd canlynol:-Cadeirydd Jo Weston Trysorydd Mandy Wix Un enwebiad yn unig a dderbyniwyd ar gyfer un lle gwag ar y Pwyllgor Gweithredol ac felly etholwyd Sybil Crouch.

Dylid gwneud hyn hyd yn oed os na chafwyd unrhyw niwed amlwg.

Roedd y capel yn rhwydd lawn y noson honno hefyd ond ni chafwyd yr un wefr ac yn hytrach na chael "encore% mynd allan o diwn wnes i.

Cyflwynwyd y noson thema, Noson Ewrop, gan Siân Lloyd a Karin Oswald a chafwyd portreadau ffilm am bobl o Gymru yn Ewrop, ymweliadau â'r Ffindir, Gwlad Groeg, Portiwgal ac Iwerddon gan Aled Samuel a deunydd archif.

'Roedd Brian Williams yn amlwg yn y sgarmes fel arfer, a chafwyd ymroddiad a brwdfrydedd gant y cant gan y bachwr o Lyn Nedd, Andrew Thomas.

Dyma'r schitsophrenia gwleidyddol diweddaraf, a hyd yn hyn ni chafwyd ymgais i egluro'i sylfaen athronyddol nac ymarferol.

Croesawyd yr aelodau i'r cyfarfod gan y llywydd Mr Dewi Thomas a chafwyd yr adroddiad ariannol gan y trysorydd.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

Fel y dywed yr Athro, mae'n syndod na chafwyd ymdriniaeth lawn cyn hyn ar yrfa Henry de Gower.

Gwnaed y cyflwyniad gan bennaeth yr ysgol Mr V Lloyd Hughes a chafwyd geiriau dethol ganddo a chan rai o staff yr ysgol.

Ni chafwyd penderfyniad ynglyn â Chwpan Rygbi Prydeinig yn dilyn cyfarfod o'r undebau neithiwr.

Ar hyn o bryd mae pecyn adnoddau yn cael ei baratoi a fydd yn gymorth i ganghennau a darpar ganghennau a chafwyd nawdd gan nifer o awdurdodau lleol ar gyfer cyhoeddi'r pecyn.

Wedi i Tom Ellis a f'ewyrth Emrys, sicrhau fod y weiars yn y tŷ yn ddiogel, fe osodwyd yr injan yn ei lle, fe roddwyd tro, a chafwyd goleuni, ac yn fwy na hynny, mi ddaeth llun ar y teli.

Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.

Cofiaf iddo drefnu cystadleuaeth hynod : lwyddiannus ar fferm Fronalchen a chafwyd ymateb rhagorol - gan yr aelodau.

Cyhoeddodd y Swyddfa Gymreig nifer o ddogfennau yn ymwneud â'r cwricwlwm cenedlaethol a chafwyd ymateb gan y pwyllgor i nifer ohonynt.

Daeth aelodau eglwysi'r rheithoriaeth ynghyd i Eglwys Dewi Sant gyda'r nos, a chafwyd anerchiad ar Dewi Sant gan y Dr Enid Pierce Roberts.

Ac er taw nifer bychan o'i straeon a leolwyd yn y cymoedd, o ran ansawdd ni chafwyd yn Gymraeg ddim tebyg iddynt.

Yn y prynhawn, bu trafodaethau mewn grwpiau a chafwyd adroddiadau ac argymhellion gwerthfawr iawn oddi wrth y cynrychiolwyr trwy arweinyddion y grwpiau.

Aeth Frank Hennessy, ffefryn arall ar y radio, Down Under i edrych ar y dylanwadau cerddorol yn Awstralia a chafwyd trydedd gyfres o Roy Noble on Common Ground gyda'r cymeriad bywiog hwnnw, Roy Noble, sydd â gwobr RTS i'w enw.

A chafwyd methiant.

Ceisiadau am gymorth ariannol: Yr oedd amryw o lythyrau wedi dod i law a chafwyd trafodaeth ynglŷn â pholisi rhannu arian.

Penodwyd pwyllgor i chwilio am gerrig a chafwyd rhai pwrpasol yn Nant y Felin a Chae yr Hendy ar dir Hafodymaidd a'r cornelau yng Nghraig Iwrchen.

Am eisteddfod y Foel, rhywbeth yn debyg oedd hanes honno, ond er dechrau yn wan yng nghyfarfod yr hwyr fe fywiogodd gryn dipyn fel aeth y noson ymlaen a chafwyd cystadlu brwd a safon uchel tua'r diwedd a gwell na'r cwbl, llawer o'r cystadleuwyr yn bobl ieuanc.

Arweiniwyd y canu gan Eryl Williams, Caergybi a chafwyd unawd gan Mrs Mildred Coniam.

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas newydd fod, a chafwyd llond penwythnos o hwyl, sbri a gweithredu.

Testun: Ni chafwyd cystadleuaeth Medal Ryddiaith fel y cyfryw.

Hyd y gwelais i, ni chafwyd yr un gair o gŵyn yn erbyn bywyd gorwyllt Wil Dafydd.

Ar rwydwaith, o ganlyniad i gydweithrediad gyda chynhyrchydd annibynnol, ailgomisiynwyd y ddrama i blant, The Magicians House, a chafwyd arwyddion cadarnhaol yn Jack of Hearts a Dirty Work. Gwelwyd datblygiad ardderchog mewn genres eraill hefyd, gan gyflawnir nifer uchaf erioed o gomisiynau rhwydwaith ar gyfer radio a theledu ym 1999/2000.

Ni chafwyd yr un Rhoda Broughton, gwaetha'r modd, - yng Nghymru.

Gwesteion y noson oedd Mr Dewi a Mrs Magdalen Jones o'r Benllech a chafwyd adloniant syber a phwrpasol iawn ganddynt, sef adrodd barddoniaeth gan Mr Jones a chanu hyfryd Mrs Jones.

Yn ôl Lingen, nid arbedodd hyn drafferth, ac ni chafwyd rhagor o gywirdeb.

Ond ar ôl hynny, gostyngodd yr angerdd a chafwyd pregethu mwy rhyddieithol, mwy deallusol, llai teimladol.

Dwy gân yn y canol gan Brahms a chafwyd rhaglen i hudo'r gynulleidfa ac, yn amlwg, a blesiodd y beirniaid.

Yn dilyn llwyddiant American Money, parhaodd Owen Money, y diddanwr parod ei wên, â'i grwydr drwy America gyda A Few Dollars More. Aeth Frank Hennessy, ffefryn arall ar y radio, Down Under i edrych ar y dylanwadau cerddorol yn Awstralia a chafwyd trydedd gyfres o Roy Noble on Common Ground gyda'r cymeriad bywiog hwnnw, Roy Noble, sydd â gwobr RTS i'w enw.

Dosbarthwyd gwybodaeth am ddarpariaeth dysgu Cymraeg trwy Gymru a chafwyd cyfle i roi cyngor i'r nifer fawr o bobl a ddaeth i mewn i'r uned.

Cyngor Gwlad: ni chafwyd adroddiad gan na allai Mat Pritchard fod yn bresennol.

Hyd y sylwais i, ni chafwyd unrhyw drafferthion oherwydd darlledu'r rhaglen yn fyw.

Ni chafwyd ynddi ddim o'r eirfa eisteddfodol dreuliedig.

Yn dilyn llwyddiant y gyfres NOW Hear This y llynedd ailadroddwyd hyn a chafwyd canmoliaeth fawr iddi.

A phan fu hi (Helen Maryr r) aaglen ffôn ar y radio ni chafwyd yr un alwad ar y pwnc er i'r cyflwynydd, meddai, wneud ei orau i gael aelodau o'r frawdoliaeth gudd i gwyno.

Cafwyd noson reit hwyliog yn trafod rhaglen y tymor nesa a chafwyd pryd o fwyd i gloi y noson.

Ond gwrthodwyd ei siec, ac ni chafwyd hyd i unrhywun arall yn y siop a oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Daethpwyd a'r orfodaeth i ben drachefn ddwy flynedd yn ol a chafwyd mwy o achosion oddi ar hynny.

Y bwriad oedd cyflwyno'r Fedal am waith gorau y blynyddoedd 1942 ´ 1944 ym 1945, ond ni chafwyd teilyngdod.

Apeliodd y gweithgaredd newydd yma at ddychymyg yr aelodau ledled y Sir a chafwyd cefnogaeth a llwyddiant hefyd.

Chafwyd dim un gôl yn y gêm rhyngddyn nhw â Valencia.