'Roedd Williams Post yn giamstar ar drin 'teledai' a chanddo fo y prynodd nhad un.
Gūr gweddw oedd, a chanddo amryw o feibion ac un ferch.
Dyna fy hen gyfaill y diweddar J. W. Jones, Tanygrisiau, a ysgrifenai'r "Fainc Sglodion" i'r "Cymro% erstalwm, yn un; gūr a chanddo lygad am lyfrau prin, llyfrbryf wrth natur - ac un caredig iawn at hynny.
Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.
Mae Noel Bain, ditectif lleol a chanddo ei hun ferch ifanc, ar ei ôl.
Nid creadur â'i dynged wedi ei rhagbenodi yw dyn, ond enaid cyfrifol â chanddo'r hawl i ddewis, i bennu ei dynged ei hun.
Sgrifennai Oakley yn dawel fonheddig, ond Ward yn ymosodol feiddgar, a chanddo ef yr oedd y meddwl miniocaf o'r ddau.
Pan ddoi i Glan Gors chwilia am Athel, hen gyfaill i mi sy'n hanesydd lleol a chanddo gryn ddiddordeb yn y Carael.
Dylsair Undeb benodi swyddog, ond maen rhaid cael person â chanddo wybodaeth drylwyr o'r gêm.
Roedd hi'n Rhyfel Byd erbyn hyn ac roedd cael dau ben llinyn ynghyd i weinidog ifanc a chanddo bellach bump o blant yn anodd.
Ymhlith y siaradwyr diddorol (gan gynnwys John Jones, Rhaeadr Gwy, a gyrhaeddodd ei gant oed) y bu+m yn sgwrsio â nhw, yr oedd un â chanddo stori ddiddorol am ei brofiadau fel labrwr yn helpu i adeiladu'r argaeau dwr.
Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.
Ni welais neb yn y dref a chanddo gysylltiad â Chymru.
Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.
Roedd ei groen yn llyfn a chlir a symudai fel dyn a chanddo gyhyrau iach iawn.
Y mae Ray yn wr a chanddo ddychymyg byw: y mae'n gweld ymhell.
Roedd yn ddyn a chanddo dalp go lew o addysg y tu mewn iddo.
Gŵr a chanddo weledigaeth eglur ydoedd.
Gwr byrgoes a boliog ryfeddol oedd y rheithor, un a chanddo wyneb llyfndew, gwritgoch â llygaid gleision yn berwi o ddireidi.
Ef yn unig, yn wahanol i'r gweddill a enwyd yn y rhybudd, a oedd yn y wir olyniaeth farddol, a chanddo ef yn unig, felly, roedd yr hawl i gyflwyno'r urddau.
Nid oes angen atgoffa neb a'i hadnabu mai un o fechgyn Bangor ydoedd HS Yr oedd acen y ddinas ar ei dafod, a chanddo feddwl uchel o'r ddinas a'i phobl, a hyd y diwedd bu yn gefnogwr brwd i glwb pel-droed y ddinas.
Yr oedd dyn a elwir yn filiwnydd, a chanddo swyddfa mewn tŵr uchel, a phan esgynnai i'w swyddfa, arferai ddefnyddio lifft, ond pan ddelai o'i swyddfa, efe a gerddai i lawr ar hyd y grisiau.
Gwrthun, nid yn gymaint oherwydd yr hyn a wnaeth Tyson yn y gorffennol achos y mae dadl ei fod wedi talu'r pris am hynny a chanddo'n awr yr hawl i fyw ei fywyd.
Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.
I wneud pethau hyd yn oed yn fwy bizarre, roedd Richard, sy'n gawr o ddyn a chanddo farf flewog, mor amlwg â llwynog mewn cwt ieir.
Mae'n bum troedfedd dwy fodfedd o daldra, yn wyn a chanddo wallt golau.
Ar ddechrau Pwyll gellid dweud bod yr awdur am brofi mai gŵr anrhydeddus o gymeriad cadarn yw tad yr arwr, a chanddo urddas a phwysigrwydd arbennig trwy'r berthynas agos sydd rhyngddo a brenin Annwfn.
Ond cymerwn yn ganiataol eich bod nid yn unig yn hanner-pan ond hefyd, drwy ryw ryfedd wyrth, yn Gymro a chanddo'r gallu i dalu am fferm yng Nghymru.
Creadur sur, hir ei drwyn, llym ei dafod oedd Owen Owens, a chanddo draed drwg a barai iddo ddefnyddio'i ffon hir fel rhwyf.
Cymeriad annwyl iawn ydoedd, a gŵr disglair, â chanddo gynt swydd uchel mewn banc yn Hong Kong, ac yn medru Tseinaeg yn rhugl.