Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chario

chario

Dim ond 'i chario yn fy llaw a cheisio edrych fel pe bawn i newydd 'i thynnu i sychu chwys oddi ar fy nhalcen.

Os ydych wedi cael llawer o lwc wrth ddefnyddio un hen ffon yna dylech ei chario gyda chi yn y bag er nad yw'n cael ei defnyddio bellach.

'a byddai pregethau lu ar ei gof yn cael eu gweu yn sgwrs ddiddorol, tra byddai nhad yn porthi yma ac acw fel bo cyfle, a chario ymlaen â'r gwaith yr un pryd.

Wedyn, wrth gwrs, llwytho'r hulogydd a chario'r gwair o'r cae i'r gadlas neu das.

Gafaelodd yn ei dwylo a'i thynnu'n ddiseremoni ar ei thraed a chyn iddi hi ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, cododd hi'n gorfforol a'i chario 'nôl i'r bwthyn.

'Iawn,' atebodd Bleddyn wrth hel ei fag a chario'i wialen yn ofalus.

Os nad oes tanciau dwr parhaol ar fwrdd eich carafan (a dim ond yn y rhai mwyaf a drutaf y mae'r rheini), yna bydd raid i chi ymuno a gweddill y werin i gario'ch dwr iddi, a chario'r dwr wast yn ol i'r draen pwrpasol.

Gallaf weld y merched a'r plant yn llwytho a chario, a chlywaf y canu.

Mi ddudodd hi y basa'n rhaid i ni gyd gymryd twrn ar ei chario hi - un bob ochr, am ei bod hi'n drwm, a Defi John a Jim fuo raid neud gynta.

Nid oedd rhaid pryderu am lanw'r pulpud a'r weinidogaeth - roedd y rhai ifainc ar gael i godi baner y Ffydd a'i chario ar flaen y gad.

'Un neu ddau o bethe i chi oddi wrth Meri 'co,' meddai a gwthio heibio i Marian Dafis a chario'r bocs i mewn i'r gegin a'i osod ar y bwrdd.

Wrth gerdded tua'r Cwmwd a chario'r parseli neges a ddaeth Huw gydag e, meddai yntau, "Sut fuasech chi'ch tri yn hoffi mynd i Fangor i'r ysbyty i weld eich tad?