Lloegr fydd yn chwarae yn erbyn Yr Eidalwyr yn yr Wyth Ola os caiff tîm Kevin Keegan gêm gyfartal yn erbyn Romania yn Charleroi.
Mae'r Gwyddel Michael O'Leary sy'n berchen ar gwmni Ryanair wedi agor swyddfa yn Charleroi sydd tua 40 km y tu allan i Frwsel ac mae bargeinion diri i'w cael.
Mae rheolwr cyffredinol Chelsea, Gwyn Williams, wedi rhybuddio unrhyw gefnogwyr Lloegr sydd wediu dal gan y plismyn ym Mrwsel a Charleroi na fydd am eu gweld yn dod i gemau Chelsea eto.