Gyda chasetiau a CDs yn disodli'r feinyl du, lansiwyd y record honno - gan Datblygu, Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog - fel y sengl Gymraeg olaf, gan ddefnyddio logo cyntaf cwmni Sain arni.
O ganlyniad, mae'r swyddfa fechan ym Mhenygroes, ger Caernarfon, lle maent wedi ymgartrefu ar ôl cyfnod byr yng Nghaerdydd, yn prysur lenwi gyda gwaith papur a chasetiau.