Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chau

chau

Roedd ei llygaid bron â chau wrth ddarllen.

Mae'r cwmni wedi dweud mai Yr Wylfa fydd yr orsaf ola i'w chau.

Rhoddodd ofal y llywio i Gwil a chau'r injan fel nad oedd ond prin droi drosodd.

Yna'r gŵr yn rhoi ei ben heibio i'r drws, ac yn galw i'r tŷ, "Na, 'dydi hi ddim yn bwrw, 'd â i ddim â sach heddiw." Yna'n taflu hen gôt dros ei war a'i chau â phin sach ac yn troi'r bin at ei ysgwydd.

'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.

'Bron pedair blynedd.' 'A cyn hynny?' 'Barclays.' Nodiodd Gareth a chau botwm olaf ei got.

Defnyddiwch gymaint o Gymraeg ag sy'n bosibl wrth gadeirio, e.e. wrth agor a chau'r cyfarfod, wrth ofyn am sylwadau, wrth fynd drwy'r agenda.

Yr oedd Meira Roberts wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau'r gangen yn eu cynghori ynglŷn â chau'r gangen yn swyddogol.

Rhy ifanc a rhy brydferth i'w chau ei hun yn y mynyddoedd - nid ei geiriau hi oedd rhain eithr geiriau Hywel Vaughan ei hunan.

Medrai eu harogli wrth iddo orwedd yn ôl ar y glaswellt a chau ei lygaid yn dynn.

Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Mae ysgol yng Nghymoedd y De wedi'i chau wedi i ddau achos o lid yr ymenydd gael eu cadarnhau yno.

Yn yr un modd, byddai cau hanner dwsin o gapeli yn Henaduriaeth Llyn ac Eifionydd yn fwy perthnasol na chau hanner dwsin o neuaddau bingo neu glybiau yfed yng nghymoedd diwydiannol y De.

Agorwyd yr ogof yr wythnos yma ar ôl ei chau er dyfodiad y dyn gwyn.

Mwyngloddio glo yn dod i ben yn Sir Benfro gyda chau glofa Wood Level yn Saundersfoot.

(Fe ofynnir ichwi os oes arnoch eisiau cadw unrhyw newidiadau a wnaed ers ichwi 'gadw' ddiwetha'.) Os byddwch yn dewis Close yna bydd y ddogfen yn cael ei chau ond bydd y cymhwysiad (ClarisWorks) yn dal ar agor.

Ond mi g'ledais fy nghalon, a chau botymau'r ffrog i'r gwddf.

Mi wyddost i mi ei chau i mewn." "Trwy'r ffenest?" "Na, mi gaeais pob ffenest cyn mynd." Agorodd Cadi'r drws, a sefyll yn y cyntedd.

Ni allwn yn well na chau pen y mwdwl â hir-a-thoddaid Tudno i "Gofadail Dr Morgan":

Cafodd yr orsaf ei chau yn 1985 a'i dymchwel yn 1990.

Bydd ei datgomisiynu a'i chau yn cael effaith sylweddol ar niferoedd y diwaith ac ar nifer y gweithwyr crefftus fydd yn allfudo.

Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.

Yr oedd iddo feranda wedi ei chau a gwydrau, ac o'r tu allan iddi yr oedd gwely o flodau o bob lliw.

Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf a dweud, Dos a chau arnat dy hun yn dy dŷ.

Roedd y rheilffordd i'r Bala wedi ei chau a'i chodi erbyn i mi gyrraedd yr ardal, ac adeiladwyd ffordd newydd sbon drwy Gwm Prysor.

Rydym yn ymrwymo i weithredu gydag unrhyw gymuned sydd ag ysgol mewn perygl o gael ei chau.

Galwn ar y Cynulliad i gadarnhau na fydd unrhyw ysgol yn cael ei chau nes y cynhelir adolygiad trylwyr o'r sefyllfa.

Heddiw mae'n fater o agor carchardai a chau capeli.

Fe dynhaon nhw bethau a chau'r Barbariaid mâs yn gynfangwbl.

Ma'r giat yna wdi 'i gnwud i'w chau yn 'gystal a'i hagor." Ac ateb sydyn Robin, fel ergyd o wn.

Roedd mwy nag un ysgol yn Epynt, ond hon oedd yr unig un gafodd ei chau.'

Dyma hi yn marchio a finnau ar ei hôl hi drwy un drws i ystafell arall a chau y drws yn glep.

"Na," meddai'r plant, "tydi o ddim wedi arfer bod hebddom ni." Rhoddodd Cadi y gath fach Smwt ar ei chlustog a chau'r drws arni'n ofalus, ac wedi gweld bod yr anifeiliaid eraill yn ddiogel, i ffwrdd â'r tri am y cwch ar ôl Huw.

Ar hyn o bryd mae Tai Cymru/ Y Swyddfa Gymreig a chymdeithasau tai mewn trafodaethau ynglyn â chau Ysbyty Iechyd Meddwl Gogledd Cymru yn Nimbych.

Danfonais ef at lidiart y lôn er mwyn ei chau ar ei ôl.

Deilen arall, lluch arall, ac yn ôl i'w chartref bach yn stryd Glynllifon a chau'r drws.

Tyfwch rywfaint o hadau mwstard a berw dwr ar sbwng llaith mewn soser ac yna rhowch ef mewn blwch cardbord a chau'r caead.Torrwch dwll bychan yn ochr y blwch, a'i adael ar sil ffenestr y gegin gyda'r twll yn wynebu'r ffenestr.Sylwch ar y blwch yn rheolaidd, a dyfrhewch yr hadau mwstard a berw'r dwr.

Un o'r rhain oedd ysgol Bryncroes ym mhen draw Llyn a chau fu raid i'r ysgol honno er gwaethaf ymdrechion caled a gweithredu tor-cyfraith pan feddiannwyd yr ysgol a'i rhedeg yn wirfoddol.

Mi ddown ni â'n hanifeiliaid i mewn y tu ôl i'r waliau a chau'r drysau derw.