Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chdi

chdi

'Henaint ni ddaw ei hunan', w'sti." "Rwyt ti'n ffodus." "Ydw wir; mae Megan gen i o hyd a'r plant i gyd o fewn cyrradd." "Ac yn Gymry i'r carn." "O, rydw i'n cyfri 'mendithion, raid i ti ddim gofalu ond chefais i ddim bywyd mor foethus â chdi cofia." "Ddim yn faterol, naddo.

Neidia ac mi ddalia i chdi?

Erbyn i Therosina orffen hefo chdi, fydd 'na fawr ddim ar ôl ohonat ti.

'Vatilan,' meddai Nel un bore gwyn a hithau'n codi ar flaenau'i thraed ger y muriau mawr, 'dwi isio siarad hefo chdi.'

'Roedd y Capten yn sôn ei bod hi eisiau gair hefo chdi p'run bynnag.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

"Sgin i ddim amsar i gyboli hefo chdi," meddai hwnnw wrtho'n fyr ei amynedd.

'I chdi ella,' atebodd.

A deud wrtha chdi am beidio'u maeddu nhw, ia?

Chwara teg iddo fo am ymlafnio efo chdi.' 'Mi 'dan ni 'di gneud deg pennod gynta Eseia, Mam.'

Mae'r cwn poeth i gyd hefo chdi ar y llwyfan 'na.' Ar wahan i ryw betha bach fel 'na, roedd o'n hen foi iawn.

'Chdi saethodd o'r cythral.'

Mi fyddan nhw'n dod yma i fynd â chdi i ffwrdd hefyd os na fyddi di'n ofalus ar y naw." Y darn o'r prom oedd yn ymestyn cyn belled â'r cwrs golff oedd y darn gafodd Joni i'w chwilio.

'A chdi fydd yn gorfod gwneud hefyd.'

Mecanig lleol yn ei ugeiniau cynnar ydy o ac fe ddywed yntau "dw i ddim wedi bod efo neb fatha chdi o'r blaen".

Chdi wnaeth gur hyd y mur main, nid y fi.

Cer di ddigon pell 'ta, Morys Wyllt, dos, draw am y traeth â chdi lle galla'i dy weld di'n corddi'r tonnau.

clywn fi'n dweud wrthyf fy hun, 'paid â ffrwcsio, gwna bethau'n ofalus bendith y tad i chdi.' Cymerais fy rhwyd o'm gwregys a'i hagor.

'Wel i chdi, fel ro'n i'n mynd i weiddi 'we' dyma hi'n gwichian.

Y frawddeg oedd 'Wel mi wnaeth ei orau wsti' neu 'Mi wnaeth yn llawer gwell na chdi a fi'.

'Well i chdi fynd 'ta.

Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb soc, fachgen, cer i'r cefn i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna oddi amdanat mewn dau funud, mi gei di ddigon o dyweli yn y cwpwr cynnes, dyna chdi.

'Chdi sy'n sbi%ena arnan ni, ia?' meddai'n gas wrth Meic.

Rwan, Ifan, a dim ond os wyt ti'n gaddo bod yn law da, tyd i mewn am hoe bach ond dwi ddim isio gweld chdi'n chwarae'n wirion, cofia, neu allan ar dy ben fyddi di, wyt ti'n dallt?

Nodiodd Gwyn ond roedd hi'n hawdd i chdi gael dy big i mewn, ond mi ddaw tro ar fyd'.

'Does gen i ddim asgwrn i'w grafu efi chdi, Talfan.'

O chdi sy'n gwybod, atebodd Charles yn swta.

'Ti isio bwyd?' 'Jest te.' 'Mi gei di jips a ffish hefyd rhag ofn i chdi udo'n bod ni wedi dy lwgu di.' Daeth y sglodion a'r sgodyn yn fôr o saim mewn papur newydd.

Gnesith hynny chdi...'

"Ti'n sylweddoli dwad, gwaith cofio sy' 'na, camras, goleuada, meicraffons, a chei di ddim deud dy lein yn rhywla, rhywla sdi, rhaid i chdi ddeud dy linellau yn yr un lle bob tro, neu mi fydd y cyfarwyddwr.