Aeth y rhaglen gerbron y dawnswyr a phenderfynwyd mynd mewn egwyddor er i Eirlys Britton ein harweinydd bwysleisio fod yn gyntaf angen mwy o fanylion ynglŷn â'r gystadleuaeth a'i chefndir.
Yn anad dim roedd hi eisiau hynny heb iddi hithau, oherwydd diffyg chwaeth ei chefndir gwledig, ei lesteirio mewn unrhyw ffordd.
Wrth gyferbynnu cefndir y nofelau hyn a chefndir llenyddiaeth Saesneg Iwerddon,mae Saunders yn nodi fod bywyd Iwerddon yn dal i fod yn amaethyddol, heb ei gyffwrdd gan ddiwylliant diwydiannol Lloegr.
Er bod diffyg tystiolaeth ynglŷn â chefndir hanesyddol y saint, y mae eu dylanwad ar y meddylfryd canoloesol yn hollol sicr.
Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.
O wybod am ei chefndir bydd yn llawer hapusach yn eu cwmni hwy nac yng nghwmni'r Llyfrgellwyr.
Heb ddweud fod y mudiad ysbrydol hwn yn 'blaid' neu'n 'sect' carwn ei ddisgrifio fel mudiad y Disgwylwyr am Ymwared a honni ei fod yn rhan gwbl bwysig o fagwraeth a chefndir Ioan Fedyddiwr ac Iesu o Nasareth.
Gwaith, cyweithiau, gwybodaeth ynghylch y Gerddorfa a chefndir i rai o'r chwaraewyr fydd peth o'r cynnwys ar safwe sy'n bennaf ar gyfer ysgolion er mwyn hyrwyddo mwy o gysylltiad â Cherddorfa'r BBC â hithau'n methu bod yn bresennol yn gorfforol bob amser ledled y wlad.
Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.