Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cheg

cheg

'Mynd a dweud wrth yr heddlu ydi'r peth callaf i'w wneud.' Lapiodd Alun y papur newydd yn barsel twt cyn ei roi yn y sach blastig a chlymu ei cheg yn dynn.

'Roedd EJ eisoes yn y gwely yn chwyrnu'n dawel, a Debora yn ei llofft yn cysgu, ei bawd yn ei cheg fel arfer, a bysedd y llaw arall yn cydio'n dynn mewn darn o siol dreuliedig.

Mi oedd Mrs Robaits wedi nodio i gysgu go iawn, a'i cheg hi'n gorad, a'r peth nesa oedd i un o'r cregyn 'ma landio yn 'cheg hi.

'Un na fase menyn yn toddi'n ei cheg hi.

Chwipiwyd cudyn o wallt gwyn yn rhydd o dan ei sgarff wlân a neidiai hwnnw i'w llygaid a'i cheg fel mynnai'r gwynt.

Ymhen rhyw ddeuddydd daeth y goruchwyliwr drwy lefel yn y chwarel a gweld nifer o sledi gwag yn sefyll yn ei cheg.

Ffroenodd yr awyr gan edrych i gyfeiriad y trwyn o graig, ei llygaid yn rowlio a'i thafod yn saethu o'i cheg.

Fe'i brathodd a'i sugno yn ara deg, gan ei droi yn ei cheg fel babi gyda theth rwber.

Gwlychodd y bys lolipop yn ei cheg a'i rwbio fo ar ei foch nes oedd y croen yn goch.

Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen.

Chwarddodd eto, yr un chwerthin gyddfol, ond yn sydyn trodd y chwerthin yn gyfog a gwelodd Llio waed yn llifo o'i cheg, ei llygaid yn troi a'r graith yn goch hyll ac yn amrwd.

Byseddodd Llio y cynfasau, y gobennydd, ei gwallt, ei llygaid, ei thrwyn a'i cheg.

Edrychodd arni'n cysgu, ei bochau'n pantio a'i cheg yn sugno am ei hanadl.

Mae hynny mor wir, Begw ac ydi fod llawer i hen law yn llaw flewog' Ac meddai fy nhaid, er na ddwedodd Begw ei hun fawr ddim, 'fuaswn i ddim yn mentro rhoi fy mys yn ei cheg hi'.

Rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgu rywbryd, a deffrodd yn hwyrach nag arfer, ei phen fel meipen a'i cheg fel cwter.

Yn ei dymer, meddai, roedd wedi ei tharo yn ei cheg nes tynnu gwaed.

Wedi i bethau dawelu rhywfaint rhyngddynt, cytunodd y ddau fod popeth drosodd yn eu priodas ac aeth ef i olchi dillad y plant tra bu hi'n golchi'r gwaed o'i cheg a'i gwefusau.

þ'i cheg yn dechrau glafoerio trodd y bocs crwn yn ofalus ar ei ochr, ac ysgydwodd y darnau arian allan i'w llaw chwith.

Ond, er gwell neu er gwaeth, ychydig iawn o dosturi a geir ym myd natur ac fe ŵyr y fam hynny gystal â neb; ymhen ychydig ddyddiau bydd yn chwalu'r tylwyth gan gario'r lefrod bychain i walau eraill yma ac acw, fel y bydd cath yn cario'i hepil yn ei cheg.

Ond yna'n sydyn dechreuodd Siân hel y cwbl yn ôl i'r sach a chlymu ei cheg unwaith eto.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.

Syrthiodd defnyn o boer i'i cheg ar y darnau, ac, yn frysiog, rhedodd i nôl y dystar i'w glanhau.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.

Yna rhwbiodd gonglau ei cheg yn lân â'i mynegfys.