Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cheid

cheid

A cheid ym mhob ardal bobl na fynnent fod yn aelodau ond a âi'n gyson i'r gwasanaethau.

A cheid pwyllgorau annibynnol ar y drefn hon, sef Pwyllgor y Gronfa, Pwyllgor y Drysorfa Gynorthwyol a Phwyllgor y Caniedydd.

A cheid cynhyrchion gwreiddiol gan y myfyrwyr hefyd.

Ond nid oedd bod ar lwybr dyletswydd, meddai, yn sicrwydd na cheid stormydd.

Aem drwy'r astudiaethau manwl hyn hefyd ar y goes gan dreulio tri mis gyda'r aelod hwnnw ac felly am bob rhan o'r corff: rhannau fel y benglog a'r ymennydd neu'r bol, a cheid arholiadau bob rhyw fis neu chwech wythnos ar yr astudiaethau hyn.

Hwn yw'r cyfansoddiad a orfodwyd ar Orllewin yr Almaen ar ddiwedd yr ail Ryfel Byd er mwyn sicrhau na cheid yno ddim eto weld gwladwriaeth gref, gor-ganolog ac unbenaethol.

Daliai darlithoedd cyhoeddus yn boblogaidd a cheid cynulleidfaoedd mawrion i wrando ar bobl fel Bob Owen, Croesor, Llwyd o'r Bryn a Chynan yn mynd drwy eu pethau.

Mewn cyfnod pan na cheid heddlu ystyrid mai disgyblaeth yn y cartref oedd y dull mwyaf effeithiol ac ymarferol i sicrhau heddwch a threfn yn gyhoeddus a moesau da mewn bywyd personol.

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.