Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cheir

cheir

Ni cheir haenen gan yn y podsol brown.

Wedi'r cyfan, pa werth sydd mewn dilyn cwrs chwyslyd mewn Ffrangeg oni cheir cyfle unwaith yn y pedwar amser i awyru'ch gwybodaeth?

Erbyn hyn y mae Glynllifon yn ganolfan ar gyfer cyrsiau llawn amser mewn amaethyddiaeth a cheir dau gwrs preswyl llawn amser.

Un o'r arloeswyr yn y maes poblogaidd yma oedd Mrs Nancy Jones, Dinas Mawddwy, a cheir cyfeiriad byth a hefyd yn hen gofnodion y Sir am gwmni%au Clwb y Dinas.

Buwyd yn paratoi testunau a elwid Bibliae Pauperum (Beiblau'r Tlodion), sef crynodeb o lyfrau hanesyddol y Beibl; a cheir testun Cymraeg o'r fath a elwid Y Bibyl Ynghymraec er nad Beibl mohono yn ein hystyr ni.

Eithr ymhlith eu tenantiaid a'u cydnabod yn y sir neu'r cwmwd lleol yr enillodd y bonedd eu parch a'u hawdurdod, a cheir tystiolaeth ddigon i brofi hynny.

Gadawaf bopeth heddiw, a chyfennir y pynciau eraill mewn rhifynnau eraill hyd y Gynhadledd, a cheir penderfynu yno parthed gwasanaeth y "Gornel", neu arall, ar ôl hynny.

Ni cheir unrhyw argraff o waedu gwerin ym mhortread Tegla o John Williams.

Felly mae'r Cyfansoddiad yn un ffederal, yn cynnwys y Senedd ffederal (y Bundestag) a'r seneddau rhanbarthol, y Lander, a cheir un ar bymtheg Lander.

Gyda cheir yn hongian wrth ei gilydd gerfydd y tyllau lle'r arferai rhwd fod dydy'r heddlu ddim yn debyg o'ch stopio chi i ofyn oes gennych chi yr hyn sy'n cyfateb i MOT.

Efallai na cheir rhyw lawer o amrywiaeth ar yr EP Farming in Space, ond gyda'r bedair cân o dan bedair munud o hyd does dim peryg i unrhyw un ddiflasu arnynt.

Yr oedd dylanwad dwy o gerddi hir Shelley, Prometheus Unbound a The Revolt of Islam, ar awdl Hedd Wyn, a cheir creadigaethau debyg i Arwr Hedd Wyn a 'Merch y Drycinoedd' yn y ddwy gerdd hyn.

Ond mae'n debyg i'w hawdur drefnu i'w hargraffu ar daflen a'i dosbarthu ymhlith ei gyfeillion a'i gydnabod, a gwelodd y llyfryddwr Charles Ashton o Ddinas Mawddwy un o'r taflenni hyn, a cheir disgrifiad ohoni ymhlith ei bapurau.

Yn anffodus, ni cheir yr ewyllys hwnnw gan bob swyddog, nac ar bob achlysur o bell ffordd.

Un felly yw Gide, ond ni cheir mo'i onestrwydd ef yng Nghymru.

Un peth a nodwedda cymdeithasau o'r fath yma yn Rhydychen ydyw mai rhai bron a thorri ar eu traws am gael lle yn aelodau yn unig a dderbynnir i mewn; felly ni cheir lawer o aelodau cloff anghyson eu hymweliad.

Mae'r stagnopodsol yn engraifft dda, a cheir rhain yn yr ucheldiroedd.

Ni cheir cymaint o olau wrth blannu'r planhigion gyferbyn â'i gilydd.

Is-deitl gwreiddiol y ddwy oedd 'Rhapsodi' a 'Palinod' ond ni cheir hyn yn Cerddi.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

Ac yn Ffrainc heno mae'r gweithwyr gwynion yn griddfan dan sbeit y cyfalafwyr y maen'hw'n gwneud modrwyau iddyn'nhw, a tai, a cheir modur, a gwin; ac yn yr Eidal heno, ac yn y Sbaen heno, ac yn Lloegr heno, ac yng Nghymru heno.

Ni cheir digon o gyfle i siarad a gwrando a cheir diffyg amrywiaeth a her yn yr ysgrifennu y bydd y disgyblion yn ymgymryd ag ef.

Rhaid i lenyddiaeth fod â chydbwysedd artistig, ond gan na cheir hynny mewn pornograffwaith, ni all hwnnw fod yn llenyddiaeth dda.

Cymeradwywyd y targed gan y Swyddfa Gymreig a cheir manylion pellach am y targed ailgylchu yng Nghynllun Ailgylchu'r Cyngor sydd ar werth o Swyddfeydd y Cyngor.

ddiwethaf yn dangos yn glir nad oedd chwaeth ddarllen y Cymro cyffredin mor gyfyng ag y mynnai eu harweinwyr crefyddol iddi fod a cheir yng Nghymru hithau dystiolaeth nad oedd yr hinsawdd mor wrthwynebus i fyfyrdod rhywiol a hyd yn oed ffantasi%au rhywiol ag yr arferem gredu.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwþr megis Y Parch.

Yng nghanol dinas fel Caerdydd mae goleua - dau strydoedd a cheir hefyd yn effeithio ar y tywyllwch.

Dyma i chi enghreifftiau: am droseddau lle na cheir marcio trwydded, deuddeg punt.

Awdl delynegol, gynnil yw'r awdl fuddugol, a cheir ynddi stori serch ddwys.

Nid oes braidd neb yn tramwyo'r hen lwybrau mwyach, ac ni cheir sgwrs wrth 'bistyll y llan'.

A cheir capeli gyda lle i gôr sylweddol y tu cefn i'r pulpud.

Yn eu rhagymadroddion a'u cyflwyniadau gadawodd y dyneiddwyr inni gorff o ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Lladin, sy'n allwedd, na cheir mo'i thebyg mewn cyfnodau eraill, i ddeall meddwl a chalon cyfnod.

Y priddoedd yma sydd bwysicaf yng Nghymru, o ran arwynebedd, a cheir hwy ar dir o uchder canolig.

Awdl ragorol oedd yr awdl fuddugol, a cheir delweddu gwych a chynganeddu gloyw ynddi.

Ni cheir sôn am Faelon Dafodrill yn y cywydd.

Er na cheir amheuaeth mai trac gan Gruff Meredith ydi hi, mae Go Iawn Wir Yr fymryn yn galetach na'r arfer, sydd yn brawf o bosib mai bwriad Boobytrap ydyw cynnig y cyfle i artistiaid Cymru arbrofi gyda'u cerddoriaeth.

Yn sicr, ni cheir golygfa fwy ramantus na heidiau o wyddau gwyllt yn croesi cynfas liwgar y machlud, a chefais gyfle i fwynhau hynny droeon ym Martin Mere.

Ceir golygfeydd trawiadol o'r tir a'r môr, a cheir cipolwg ar hen feini o'r oesoedd cynnar, cestyll yr Oesoedd Canol, capeli a bythynnod gwyngalchog bychain.

Gellir prynu llygod mawr wedi eu gwneud o fara mewn siopau a cheir cerfiadau ac arysgrifau ar lawer o'r tai.

Eisteddant yn y galeri yn gweu a smocio a sglaffio creision a cheir un o olygfeydd doniolaf y ffilm pan yw'r dair ohonynt yn joio mas draw wrth i'r grŵp chwarae'n egniol i gyfeiliant goleuo dychmygus Tref a'r ffilm gefndir o griw o ddawnswyr ifainc.

Y mae'r Beibl Cymraeg yn gyfieithiad rhagorol a cheir clasuron diwinyddol a defosiynol yn yr iaith.

Ni cheir yr un fflach yn awdl fuddugol ddiflas Dyfed.

Bu cerddorfeydd mewn llawer capel yng Nghymru a cheir ambell gapel wedi ei adeiladu gyda lle i gerddorfa o flaen y sêt fawr.