Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chenedl

chenedl

Synied am y genedl yn nhermau'r iaith Gymraeg y mae Sion Dafydd Rhys yma: y mae iaith a chenedl yn gyfystyr iddo, ac y mae'n cydnabod bod bygythiad gwaelodol i'w bodolaeth yn y math o feddylfryd unoliaethol a ymgorfforir, er enghraifft, yn y Ddeddf Uno.

Hebddynt hwy, ni byddai na phobl na chenedl Gymreig.

Yn yr un modd yn union, gwahaniaetha'r Hen Destament yntau yn fwriadol rhwng pobl a chenedl.

Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.

I fynd at wraidd y gwahaniaeth rhwng pobl a chenedl, y mae'n rhaid cofio yr edrychai Israel arni ei hun fel cymundod o deuluoedd.

Ar y llaw arall, bu'n atalfa oherwydd fe ddigwyddodd ar yr union adeg pan oedd y Blaid Lafur yng Nghymru yn dechrau rhoi lle pwysig i Gymru fel gwlad a chenedl yn natblygiad ei pholisiau, ond o ganlyniad i'r isetholiad arafodd y datblygiad gobeithiol hwnnw.

Rhannodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen bob gwlad a chenedl lle ceid gwrthdaro rhwng Gwrthryfel ac Adwaith.

O ran cenedligrwydd cyfreithiol, Saeson oedd y Cymry yn awr, er i'r cof am wlad a chenedl ar wahân gael ei gadw'n fyw gan yr ymadrodd "Lloegr a Chymru%.

Pan geisir olrhain dysgeidiaeth yr Hen Destament ar gwestiwn cenedl, deuir wyneb yn wyneb â'r broblem a drafodir ymhob ymgais i ddadansoddi hanfod cenedligrwydd, sef y gwahaniaeth rhwng 'pobl' a 'chenedl'.