Yntau'n falch cael dweud hanes Leusa'r Pant yn rhoi'r bêl fain drwy'i chlocsen yn ei hast, "a 'na hi, Ann, mi fydd yn gorfod cario'i throed drwy'r haf!" Gwenu'n dosturiol a wnaeth mam.