Look for definition of chludo in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Trefniadau diogel ar gyfer defnyddio, trin, storio a chludo nwyddau, deunyddiau a sylweddau.
Mae hynny wrth fodd y coed, gan mai prif bwrpas lliwiau llachar llawer o'r ffrwythau yw denu adar i'w bwyta, a chludo'r hadau i bob cyfeiriad.
Y mae'r afon wedi treulio neu erydu'r tir a chludo darnau o graig, a elwir gwaddod, i lawr tua'r môr.
DEFNYDD YNNI A THRAFNIDIAETH: Mae cloddio a chludo mwynau yn golygu gwario ynni sylweddol, a'r gwaith o'i gynhyrchu a'i ddefnyddio, ynddo'i, hun â goblygiadau ar yr amgylchedd.
Cewch blesio'ch hun a ydych am gario'r olwyn y tu fewn i'r garafan neu brynu ffram bwrpasol i'w chludo oddi tani.
Cafwyd cymorth y llynges i'w chodi i'r wyneb a'i chludo i'r lan lle mae'n aros o hyd dan glo.
Gyda'r arian fe lenwid howldiau'r llongau â baco, cotwm, siwgr a rwm a chludo'r rhain yn ôl i Lerpwl a phorthladdoedd Prydeinig eraill.
Ar ôl trosglwyddo'r garreg i'r cychod a fyddai'n ei chludo daeth anffawd arall wrth i'r garreg gwympo i wely'r môr.