Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chlust

chlust

Heblaw ei feirniadaeth gymdeithasol grafog, yr oedd ei ddadansoddiad o wendidau'r Bardd Newydd ac o natur arddulliol y beirdd rhamantaidd a ddaeth i ddisodli hwnnw yn dangos chwaeth datblygedig a chlust fain odiaeth.

Daeth ei chlust yn gyfarwydd a sŵn trafnidiaeth ddieithr yr adeiladwyr yn rhygnu i fyny'r feidir.

'Taw er mwyn i mi gael clywed beth sy'n digwydd!' Roedden ni'n tri yn y gegin a nhw'u dau yn yr ystafell ffrynt a chlust Robat John yn fflat ar y drws.

Estynnodd ei llaw i'w waelod, tynnu'r anrheg allan a'i hysgwyd wrth ei chlust.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .