Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chlywais

chlywais

Chlywais i ddim gair pellach oddi wrtho, ond mae'n debyg fod degau yn gofyn am waith iddo bob dydd.

Chlywais i erioed neb yn dweud am yr un tŷ yn Blaenau fod yna fwgan ynddo.

'Chlywais i erioed am Mozart, ond wedi canu'r ddisg, cymaint oedd fy mhleser fel y cenais hi drachefn a thrachefn.

'Chlywais i'r fath sothach erioed!

Yn wir ni chlywais erioed fod bwl olwyn wedi torri.

Nid oedd Daniel yn gawr o ddyn, ond beth bynnag oedd pwysau'r blaten ni chlywais ef yn cwyno.

Yr oedd ef wedi astudio ei galon ei hun am oes, a chlywais ef yn dweud amryw weithiau ei bod yn fwy ei thwyll na dim.

Roedd y distawrwydd yn Dethol bellach - chlywais i erioed y fath ddistawrwydd.

Chlywais i erioed am ysbryd yn dal cathod!

Ni chlywais i'r un gof gwlad grynhoi llawer o gyfoeth, er ei fod, ar y cyfan, yn un o'r rhai a weithiai galetaf o bob dosbarth o weithwyr.

Er bod yr un profiadau yn gyffreding i'm ffrindiau pennaf sef Ifan Trofa,Wil Derlwyn ac Eric Gwynant, ni chlywais yr un o'r tri yn son am fynd i'r mor.

Byddai ambell syrcas a sioe bach yno yn eu tro, ond ni chlywais am yr un ers tro bellach.

Galw Eseciel Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad, ac yn dweud wrthyf, Fab dyn, saf ar dy draed, ac fe siaradaf â thi.

Cododd yr ysbryd fi, a chlywais o'r tu ôl imi sain tymestl fawr: Bendigedig yw gogoniant yr ARGLWYDD yn ei le.

'Chlywais i erioed mohono fo'n cwyno hefo dim afiechyd, ac mi fuo'n gweithio yn y chwarel nes cyrraedd oed ymddeol heb golli un munud oddi wrth ei waith.

'Chlywais i erioed mohonyn nhw'n galw ei gilydd wrth eu henau bedydd cyn hyn, a rhyfeddais.

Rhonciodd y llong yn waeth nag arfer yr ennyd nesaf, a chlywais lais dyn yn gweiddi'n dorcalonnus yn un o'r cabanau 'roeddwn newydd ei basio.