Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chlywed

chlywed

Mae hyn yn ein helpu i gyfnewid straeon o wahanol rannau o Ewrop ac mae'n golygu bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar hyd a lled Ewrop.

Curais ar y drws, a chlos o ato o dan fy ambarel, a chlywed sŵn traed rhywun yn dod i'w agor.

Nid oedd i ymddangos ar unrhyw arwydd cyhoeddus nac, yn wir, i gael ei chlywed o gwbl ym mhresenoldeb Saeson.

blyb bara llefrith yn dechrau berwi yntê, a mi fydd yr hen gath i'w chlywed yn stwyrian yn y dail.

At hyn i gyd, trosiad hyfryd y cynaeafu a thrylwyredd y cywain i ysguboriau yn y pennill olaf; nid yn unig bodloni ar fedi diwyd ond mynnu lloffa'n ymroddgar hefyd fel nad oes ronyn o weld a chlywed yn mynd ar goll.

Ar ddydd golau, yn sŵn traffig a phobl a rhuthr fedrech chi mo'i chlywed, ond yn y tawelwch, roedd miwsig yr afon yn llithro dros y cerrig i'w glywed yn glir.

Fersiwn o Gaerdydd ar stori sydd i'w chlywed ym mhob rhan o Gymru sydd isod.

Mewn archfarchnadoedd, daeth pobl yn gyfarwydd â chlywed cyhoeddiadau megaffôn am y cynnydd diweddaraf mewn prisiau.

Roedd y Gymraeg i'w chlywed ac arwyddion yn yr iaith i'w gweld ond teimlo roeddwn i ar ddechrau'r daith mai cychwyn mae'r adfywiad a bod llawer o ffordd i fynd.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Mae mor uchel nes y medrir ei chlywed hi ym mhobman, o ben draw Cernyw i bellafoedd yr Alban.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

'Unwaith y byddwch chi wedi dechrau rhoi tystiolaeth, ac arfer â chlywed eich llais eich hun, mi fyddwch chi'n iawn.

Teimlai Pamela fod barn Duw wedi ei chyhoeddi yn ei herbyn hithau y noson honno a'i bod yn ei chlywed o enau Dowdle.

Anghofia'i byth y teimlad ofnadwy o ofn oedd arnaf wrth weld yr anifeiliaid gwyllt, er eu bod mewn cewyll, a gweld dyn yn mynd i fewn at y llewod, a hwythau yn gwneud yn ol gorchymyn y "trainer", a chlywed y llew yn rhuo.

YR ARWYDD A'R CELFYDDYDAU: Calonogl bob amser yw gweld a chlywed criw o bobl ifanc yn cyflwyno cynyrchiadau ar lwyfan.

Mi weles i aberthu un o'r ceiliogod hynny mewn cae y tu ôl i dyddyn rhwng Cherra a mawphlang a chlywed disgrifiad o siâp yr wythnosau i ddod.

Aeth yn ôl i'r gegin a chlywed y sgrechian wedyn a llais Mary yn glir yn gweiddi mewn dychryn, 'Mae'n ddrwg gen i, ddrwg gen i.

Y creadur hoffus a phell.' "Welis i 'rioed ddim byd yn bell ynddo fo.' 'Roedd Lleucu'n barod i amddiffyn ei thad-yng- nghyfraith i'r eithaf, ac 'roedd Sioned yn falch o'i chlywed yn gwneud hynny.

Ni allai ddioddef ei chlywed yn disgrifio sumptomau ei hafiechyd.

Estynnodd ei llaw am y bwlyn a chlywed rhywun yn symud yr ochr draw i'r drws.

'Roedd Dewyrth Dafydd yn bump oed ar y pryd ac yn cofio amdano'i hun yn sefyll efo'i fam yn nrws Crowrach a chlywed yr ardalwyr yma ac acw hyd yr ardal yn bloeddio 'Elin, Elin'.

Fo, fwy neu lai, oedd yr unig un ar y feranda gan fod pawb arall wedi mynd i weld y ras olaf; roedd hi i'w chlywed fan draw.

A dyna Emyr yn dod i mewn i'r gegin i chwilio am yr esgidiau sboncen roedd hi wedi eu glanhau ar ei gyfer a'i chlywed hi'n dweud wrth ei mam y byddent yno erbyn amser te.

Ond pan ddaeth Galloway ei hun i'r siop tua hanner awr wedi naw a chlywed fy mod yn y llofft carlamodd i fyny'r ysgol ynghynt nag y gwneuthum i hyd yn oed.

Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.

Rydym am barhau i wneud hyn oll, gan adeiladu ar ein hymrwymiad i deledu digidol yng Nghymru a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cwrdd â phobl wyneb yn wyneb a chlywed eu barn.

Roedd pawb wedi'i chlywed a Griffi'r Cwrt wedi cael adrodd ei bennill eleni eto.

Ac maen braf ei chlywed.

Mae'n anhygoel i rywun o'r tu allan weld y difrod aruthrol a chlywed y difrod yn digwydd - y gynnau a'r bomiau a'r shells.

Gallai ddychmygu ystum aesthetig Vera Puw-Jones, y tiwtor, wrth anwesu'r brigyn yn hwyrach heno, a'i chlywed yn ei chanmol am ddewis y bwa perffeithiaf ei ffurf ar holl lethrau'r Frenni.

Ac wrth iddi dacluso'i llyfrau yn nistawrwydd diwedd pnawn a chlywed lleisiau ei disgyblion yn pellhau nes mynd yn un â'r tawelwch y tu allan, ni allai lai na'u dilyn yr holl ffordd adref, yn ei meddwl.

Nid oedd dim yn ei frifo'n waeth na chlywed rhywun yn dweud ei fod yn methu deall rhyw gerdd o'i eiddo.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.

Cofiodd Pamela fel y bu iddi hi weld a chlywed dau ŵr yn canu emyn ar y strydoedd yn Nhal-y-waun flynyddoedd cyn hynny.

'Mi awn ni yno at ymyl er mwyn inni gael gweld a chlywed' - mewn rhyw dymer gellweirus, gallwn dybio.

Chi'n gweld 'roedd 'y nhad yn fwy doniol adra, nid yn unig am y ffaith ma' ni fel teulu oedd yn clywed y jôcs gynta' (a chlywed pob un, nid y rhai dethol), ond 'roedd nhad yn ffraeth ei dafod beth bynnag fo'r sefyllfa, does dim pryd bwyd wedi mynd heibio, na fydda nhad wedi dweud, neu wneud rhywbeth doniol.

Medrwn flasu a chlywed arogl, clywed swn, cyffwrdd a gweld pethau o'n cwmpas.Gweld yw'r synnwyr pwysicaf.

'Hei, Rhys tyrd yn d'ôl...' clywodd Dad yn galw ond cymerodd arno beidio â chlywed.

Na, doedd hynny ddim yn hollol wir: roedd yn gas ganddo ei chlywed yn cwyno.

Bydd y cd i'w chlywed ar Gang Bangor yn ystod yr wythnosau nesa ma a chofiwch hefyd fod ep newydd Doli yn y siopau.

Paid â Siarad Efo Fi ydyr gân gynta sydd i'w chlywed ar y Cd , syn gopi hyrwyddo, ac maen agoriad gwych ac addawol iawn i'w gyrfa gerddorol.

Gallai deimlo anadl poeth ar ei war a chlywed rhyw ganu grwndi bygythiol yn ei glust.

"Roedd Gwladys a Meinir eisoes, yn ôl y drefn, wedi rhoi eu dwylo wrth eu cegau crynion, ac wedi dal eu hanadl a sgrechian, ac erfyn am gael peidio â chlywed y manylion gwaethaf.

Stori y byddwn wedi ei chlywed droeon lawer cyn hynny ond a oedd yn werth gwrando arni unwaith yn rhagor.

Wrth weld a chlywed y moduron yn rhuo heibio iddynt mor agos, daeth hiraeth ar y plant am fod yn ôl ar yr ynys, yng ngwynt y môr, gweld yr adar, a Llwyd a'r anifeiliaid eraill.

Mae dyn megis yn gweld gwên a chlywed llais amryw ohonynt o hyd.

Ac felly pan safwn wrth y gofeb y dydd o'r blaen, gallwn ddychmygu'r olygfa a chlywed sŵn Halelwia yn y gwynt.

Pan glywodd fy mrawd-yng-nghyfraith y newydd am ei farwolaeth ar y teledu dywedodd wrth ei wraig fod "y dyn 'na a arferai gadw gôl i Amlwch wedi marw." Dyna'n union y math o stori y byddai BLJ wrth ei fodd yn ei chlywed, ac wrth ei fodd wedyn yn ei hailadrodd.

Gwenodd yn oeraidd o'i chlywed yn gwyrdroi ei eiriau.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Ni allai beidio â chlywed Cymraeg yma ac acw gan y brodorion ond nid oedd y bobl o bwys yng Nghymru fawr gwahanol i bobl debyg iddynt yn Lloegr.

Un o'r elfennau hyn yn sicr iawn yw dawn bardd i sylwi â'r pum synnwyr - gweld, clywed, blasu, cyffwrdd, arogli: gweld a chlywed yn arbennig.

Ond o'i chlywed, holais yn fanwl, fel y doethion gynt, am y lle a'r amser yr ymddangosodd y fath broffwydo.

Pob nos Calan Mai mae yna sgrech arswydus i'w chlywed uwchben y wlad.

Na'r rhyddhad o'i chlywed yn dychwelyd gartre bob pnawn.

Wel yn awr 'te, gad i ni gael ei chlywed hi..."

Tynnodd ei hun i fyny a chlywed ei fantell yn rhwygo ond roedd gweld golau dydd o'i flaen yn rhoi hwb newydd iddo.

Mae mwyafrif y cyffelybiaethau yn rhannau annatod o'r darlun ac yn ein galluogi i weld a chlywed a theimlo naws ac awyrgylch.