Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

choesau

choesau

Decllath i ffwrdd, rwy'n gweld bachgen bach â choesau cam yn cydio'n sownd wrth sgert ei fam.

Croesodd ei choesau siapus a hoeliodd ei llygaid ar wyneb y bachgen.

Er y gall technoleg fod yn werthfawr iawn i gynnig 'breichiau a choesau' newydd i bobl, dydi ail-osod cymalau colledig neu gymalau a nam arnynt ddim ynddo'i hun yn arwain at fyw'n annibynnol.

Llenwai'r planhigion y lle; roedd fforest ohonynt, gyda dail ffiaidd, cnawdol a choesau fel bysedd dynion marw newydd gael eu 'molchi.

Dyma chi'n dynesu at y ffermdy a choesau eich trowsus wedi eu rowlio i fyny hyd at eich pengliniau.

Tua diwedd y pnawn o sgio a choesau pawb yn brifo'n ofnadwy, meddai Patrick.

Rhythai arnaf gan ychwanegu'n awgrymog: 'A 'dydw i ddim yn licio'r ffordd y bydd hi'n codi'i choesau ar y fainc yn y festri.

"O Iesu mawr," gwichiodd Morfudd, gan ddychmygu'r esgid fawr ddynol yn ymddangos unrhyw eiliad drwy bren y drws ac yn ei thrywanu rhwng ei choesau.

Fe'i deliais hi o dan ei cheseiliau a gollyngodd ei choesau odani yn syth.

Wrth sbio ar ei choesau hirion daeth i'w feddwl bwt o hen gân werin yr arestiodd o rywun am ei chanu rywdro:

Roedd hi mor ffeind wrthym ni a doedd ganddom ni'r un ffordd arall o ddangos ein diolch, ac os oedd hi'n hoffi cael cosi ei choesau, wel, iawn i ni wneud hynny drosti.

Rhai gweithiau yn unig y gwelais hi'n wirioneddol ddigalon, a hynny pan oedd y briwiau ar ei choesau mor enbyd o boenus fel na allai symud o'i chadair o flaen y tân nwy yn ei chartref.

Roedd y bumed â'i choesau i fyny fel rhyw gerflun modern, chwerthinllyd yng ngwaelod y cae!

Wedi rhannu'r da-da a dweud hanes y baban Moses neu Joseph a'r siaced fraith (ac ychwanegu troeon i'r stori nas dychmygwyd erioed gan yr hen Rabbiniaid) codi ei choesau tew ar y fainc o'i blaen a dweud: 'Rŵan 'te, Dime am gosi'r goes chwith.

'Dydw i ddim yn credu iddi erioed ofyn iddo fo gosi ei choesau.

Ni byddai na rhaff o gylch ei chorff na gefynnau am ei choesau yn ddim ond moddion iddi ddangos ei champau.

Fe'i gwelir ar nifer o blanhigion yn ystod yr haf, ar y coesau, tan y sepalau neu mewn cilfachau rhwng dail a choesau.