Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chofio

chofio

Cafwyd noson i'w chofio a threfnwyd y daith gan Miss Eleri Lloyd Jones a gyrrwr y bws mini oedd y Parchedig Olaf Davies.

Daw'r eira cyn y bore, meddai'r naill wrth y llall, gan wrando ar ddolefiad y gwynt a chofio'r gaeaf rhewllyd chwe blynedd ynghynt.

Y frawddeg i'w chofio yw'r un a ddywed: "Po fanaf yr had, manaf y pridd." Rhai mân iawn yw hadau lawnt.

Dim problem--swper hyfryd iawn, a chofio troi'r botwm ar y wal ar ôl gorffen y coginio.

Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.

Cafwyd noson na ddymunai neb ei chofio ar y traeth y noson honno.

Ni allwn lai na chofio am y tro hwnnw y bu+m i'n beirniadu'r adrodd yn 'steddfod Llangadog slawer dydd.

Ystyriaeth i'w chofio gan olygyddion rhaglenni newyddion Cymraeg yw cynefin a diddordebau y gynulleidfa y darperir ar ei chyfer.

Mae'n bosibl hefyd, a chofio y gall yr awdur fod yn fynach, fod awgrym ffurff o benyd cyhoeddus i'w ganfod yn y gorchymyn i adrodd yr hanes wrth bawb a ddêl i'r llys.

Pan edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd a chofio fel yr oedd hi yn y Rhondda pan oeddwn i'n mynychu Ysgol Ramadeg y Merched yn y Porth (y pryd hwnnw y 'Conty School for Girls' na feddyliodd undyn byw am ei galw wrth ei henw Cymraeg) y mae'r sefyllfa wedi newid yn fawr ac er daioni.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Eto gellid gorbwysleisio dyled y llenor o Gardi i'r Americanwr, y mae'n debyg, am fod ysbrydion Meini Gwagedd yn codi'n hollol naturiol o darth y Gors fel yr oedd Kitchener yn ei chofio.

`Dyma'r storm waethaf rydw i'n ei chofio ers imi ddechrau gweithio ar y rheilffyrdd,' meddai Thomas Barclay.

Roedd eisiau i bawb fynd adref a chofio dychwelyd drannoeth, ac yn y cyfamser gofynnodd iddynt i gyd, bob wan jac, i weddio ar Allah i roi nerth o'r newydd i'r reslwyr lleol.

Roedd y ddau wrth eu bodd gan eu bod yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol ac ar y nos Wener cafodd y ddau noson i'w chofio - a mwy fyth o achos cofio pan ddaethant adref a chanfod fod lladron wedi dwyn popeth oedd o werth yn y tþ...

Chesterfield oedd ar Barc Ninian ddoe - y tîm sy ar frig y drydedd adran, ar hyn o bryd o leia - a roedd hi'n gêm i'w chofio.

Lerpwl yn erbyn Arsenal - ail dîm yn erbyn y trydydd yn yr Uwch-gynghrair, gogledd yn erbyn de, ac argoelion gêm i'w chofio.

Cafodd Lerpwl noson i'w chofio yn Stadio Olympico.

Wrth edrych drwy'r ffenestr a gweld yr eira yn fantell drwchus dros y tir, a chofio fel y bÉm bron â sythu wrth aros am y trÚn ym Mhenybont, penderfynais y byddai'n well i mi gael lle gweddol gynnes.

Faddeua i byth i fi fy hunan am beidio a chofio a chofnodi talp o hanes cymdeithasol a aeth i ddifancoll yr eiliad y syrthiodd Evan Jones yn farw wrth groesi o'r siop i'r blwch ffon yr ochr draw i'r hewl.

Neu, a chofio rhybudd T Gwynn Jones ynglŷn â pherygl olrhain dylanwadau, a ydyw'n bosibl fod yr un amgylchiadau ag a roes fod i ganu'r Trwbadwriaid ym Mhrofens, wedi rhoi bod i ganu tebyg neu led-debyg yng Nghymru?

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

"Edrych y coesa' cry' sy'n ei ddal o yn y môr." Ond, coesau cryf neu beidio, fedrai Joni ddim peidio â chofio am y rhaglenni teledu a welodd am y môr.

Araith Saesneg, yn sôn am Don John of Austria at the bartle of Lepanto, yw'r unig un yr wy'n ei chofio a oedd yn beirniadu'r cynnig.