Cau gwaith dur Brymbo a cholli 1,000 o swyddi.
Rhag ofn, wrth gwrs, fod pwyntiau cosb eisoes wedi eu marcio ar y drwydded, a bod y gyrrwr, o'r herwydd, ar dir i'w cholli.
Chwith fu ei cholli ddwy flynedd yn ôl.
Fe wnaeth Lloegr wharen well yn erbyn Portiwgal - a cholli.
Am ganrif gyfan bu mil oedd o weithwyr dan yr hen drefn yn trethu eu nerth a cholli llawer o chwys, a daethai'r cyfnod hwnnw i ben.
Gwell colli gwaed na cholli wyneb, meddyliwn a'm calon yn trymhau.
Roeddwn bron a cholli fy mholion sgio a gollwng y lifft yn gyfangwbl o 'ngafael.
Mae'r ola o'r caneuon, Sêr yn llawn egni ond oherwydd fod llais Alex, unwaith eto, yn tueddu i fod yn rhy dawel mae yr effaith fwriadol yn cael ei cholli ar geiriau felly braidd yn anneglur.
Beeching yn awgrymu cau chwarter o reilffyrdd y wlad, hyn yn arwain yn y pen draw at gau 2,128 o orsafoedd a cholli 67,700 o swyddi.
Mae'n siŵr mai'r gwaethaf iddi hi - gwaeth hyd yn oed na cholli ei harian - oedd y gwaradwydd fod pawb yn gwybod iddi gael ei gwneud.
Fe wnaeth Lloegr whare'n well yn erbyn Portiwgal - a cholli.
Rhaid wrth oleuni haul a'i wres os am gynnydd, ac y mae'r sawl sy'n gosod ei ddawn o dan lestr yn ei cholli.
Yn y diwedd r'on i wedi datod y cwbl, a sylweddoli wrth dynnu'r peth oddi wrth ei gilydd mai hen ddoli glwt r'on i wedi ei cholli rhai wythnosau cyn y Nadolig oedd hi.
Collon ni gêm i Gaerdydd y dylsen ni fod wedi ei hennill, a cholli i Gasnewydd - gêm arall dylsen ni fod wedi ennill.
I bawb arall, mae Cymru'n ennill wedi dod yn beth mor anghyffredin y dyddiau hyn, fel mai'r gorau y gall neb ei ddisgwyl erbyn hyn yw peidio a cholli.
Ond yn y rownd gyn-derfynol mae'n cyfarfod y chwaraewr sydd ar dân, Ronnie O'Sullivan, sy eisoes wedi ennill dwy bencampwriaeth y tymor hwn a cholli'n y rownd derfynol mewn un arall.
Efallai, fe'i clywais yn honni, y byddai'n rhaid i Gymru fynd fel Iwerddon a cholli'i hiaith cyn y cyffroid hi i adweithio yn erbyn y golled ac i droi at genedlaetholdeb.
Y ffilm hanner can munud hon a gyfarwyddwyd ac aysgrifennwyd gan Ceri Sherlock, yw'r ddrama Gymraeg gyntaf i bortreadu byd sinist ardal golau-coch Amsterdam, gan gyflwyno portread pwerus o lygredigaeth, dadrith a cholli diniweidrwydd.
Doedd dim moment i'w cholli, meddyliodd Mathew.
A ddoedodd nad cymwys oedd adel printio math yn y byd ar lyfrau Cymraeg eithr ef a fynne i'r bobl ddysgu Saesoneg a cholli eu Cymraeg.
'Rşan, Gethin,' sibrydodd Ffredi, 'paid â cholli arnat dy hun.'
Credwn nad oedd dim yn wahanol ar wahân i'r tywydd, y codwm, ras wedi ei cholli ...
Enillodd Martina Hingis a cholli wnaeth Anna Kournikova.
Mae'n bwysig i mi beidio â cholli gobaith." Ond y foment y dechreuodd ei galon godi, teimlodd rywbeth fel braich hir wlyb yn cau am ei wddw.
Dyma'r unig gwmni sy'n barod i arbed swyddi ac mae peidio â cholli swyddi'n bwysig yn y diwydiant ceir sy'n wynebu trafferthion ar hyn o bryd.
Y gwaith o ddigomisiynu atomfa Trawsfynydd yn cychwyn a cholli 600 o swyddi.
Mae llawer o'r cynyrchiadau ar y sianel ddigidol yn fyw felly mae angen i'r cyflwynwyr feddu ar feddwl chwim a pheidio â cholli eu pennau: her y mae'r criw talentog yn fwy na pharod i'w chwrdd.
Miloedd o lowyr yn gorymdeithio i Lundain mewn protest yn erbyn y bwriad i gau 31 o lofeydd a cholli 30,000 o swyddi.
Roedd y tîm cartref heb sgorio rhediad na cholli wiced amser cinio.
Gyrfa addysgol ddigon trafferthus a hynod o debyg a gafodd Euros hefyd gan iddo orfod newid ysgol yn aml a cholli ysgol yn ysbeidiol, weithiau am gyfnodau hir.
Mae Cymry'n Colli Pwysau yn rhaglen hybu iechyd sy'n annog pobl i fod yn ffit, a cholli pwysau'n ddiogel a llwyddiannus.
Mi fu bron iddo â cholli'r het unwaith medda fo--'Roeddwn i newydd ddechra' pysgota ar lan y llyn pan ddoth 'na bwff reit sydyn o wynt a'i chwythu i'r dwr.
Y cwmni BP Chemicals yn cyhoeddi ei fwriad i gau gwaith Baglan a cholli 600 o swyddi.
Roedd yn well inni ildio peth o'n nwyddau a chael llonydd na cheisio ymladd yn erbyn byddin rhy niferus ac yn y diwedd golli ein holl eiddo a cholli ein bywydau yn ogystal.
Er mwyn cadw at y pwysau hyn yn hytrach na cholli mwy, rhaid i chi gynyddu'r maint o fara, tatws, reis, pasta a ffrwythau yn eich diet yn raddol.
Gwaith dur Duport yn Llanelli yn cau a cholli 1,100 o swyddi.
Canlyniad hyn, wrth gwrs, oedd llawer o longddrylliadau a cholli llu o fywydau.