Dychymgwch eich bod yn byw drwy'r bedlam yna ar ôl Dolig pan mae pob dim ar sêl yn y sipa, a phob twll a chornel yn bloeddio hynny.
Fe ddangosodd y rhain i mi bob twll a chornel o Istanbwl cyn i ni wasgaru ymhen pum diwrnod.
Gyda grwpiau fel Manic Street Preachers a Stereophonics yn derbyn canmoliaeth o bob twll a chornel - ac nid ym Mhrydain yn unig - mae'r rhai hynny a oedd yn fwy na pharod i feirniadu bellach wedi gwirioni ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.
Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.
Daeth newid ar y drefn o gasglu wedi iddynt sylweddoli pa mor anfoddhaol oedd yr wybodaeth lafar, ac yn wir, pa mor amhosibl oedd teithio i bob twll a chornel.
Mae'n ddigon tebyg i'r duedd (ar echel arall) i rai deithio'r byd gan weld adlewyrchiad o Gymru ymhob twll a chornel.
Miloedd ar filoedd ohonyn nhw'n llenwi pob twll a chornel o'r Ddinas.
Fe archwilion ni bob twll a chornel.
Fyddai neb yn ei adnabod o erbyn hyn gan fod cymaint o amser er pan aeth o oddi yma, ond eto mi fyddai o'n gwybod am bob twll a chornel yma.