Bydd car Sarjant Jenkins tu fas mewn munud.' Diflannodd y ferch ond ailymddangosodd ymhen eiliad yn gwisgo'i chot fawr a'i chapan.
Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.
Diolch i'r miri efo'r hogan wirion yna gollodd ei chot law, roedden nhw chwarter awr yn hwyr yn cychwyn o Bwllheli ac roedd y ddamwain yna ger Llanllyfni wedi achosi iddo golli mwy o amser.