Dawn Chouchen – yn union fel Big Leaves – ydi cyfansoddi traciau byr sydd yn eithriadol o fachog.
Waeth imi fod yn berffaith onest a chyfaddef fy mod i wedi methu perfformiad Hitchcock ar ddechrau'r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf ond yn sicr mi oeddwn i'n bresennol pan gamodd Chouchen i'r llwyfan.
Bron na fyddwn i'n dweud fod perfformiadau byw Chouchen yn rhagori ar yr hyn sydd i'w glywed ar eu crynoddisgiau, a fedr hynny ond bod o'u plaid nhw.
Er bod yma ymgais i gyflwyno cerddoriaeth sydd fymryn yn galetach na'r arfer, nid grwp roc mo Chouchen, ac oherwydd hynny nid yw'r traciau hyn yn taro deuddeg.
Yma fe geir ochr aeddfetach i'r mynegiant yng ngherddoriaeth Chouchen, wrth iddynt gyfeirio at y ffaith nad yw pobl yn dueddol o gofio'r hyn a ddysgir mewn ysgolion a cholegau, ond eto i gyd yn cael dim trafferth hel atgofion am yr holl sothach a geir ar y teledu.
Yn amlwg cafodd Dafydd Iwan groeso gwych ond yr oedd hi'n noson lwyddiannus i Ysbryd Chouchen, au caneuon sydd, erbyn hyn, i'w clywed yn aml ar Radio Cymru.
Mae yna gryn dipyn o wahaniaeth rhwng arddull Chouchen ac arddull y Tystion wrth gwrs, a chwyn sawl un am Steffan Cravos a'i fêts yw nad oes modd cyd-ganu gyda nhw a'u bod yn rhy swynllyd o lawer.