Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.
Pryder ynglyn â chrebachu'r iaith yn y cadarnleoedd, ei dirywiad fel iaith gyntaf ar yr aelwyd, ac yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau 'traddodiadol'; gobaith ynghylch y cynnydd yn niferoedd y bobl ifanc sy'n ei siarad, y cynnydd yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau newydd ac yn y cyfleoedd newydd i'w defnyddio.
Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.