Ac yn wir i chi, fel yr oedd cloc yr eglwys yn taro deuddeg, i lawr â'r mul, a diniwedirwydd a chredo'r plant mewn grym ewyllys da wedi ei atgyfnerthu a'i gadw, wel am flwyddyn arall o leiaf.
Nid gormod dywedyd bod y Saint, yn ôl syniadaeth a chredo'r bobl, megis angylion, a phrin y gellid meddwl am na helynt na thrafferth na llafur, na ellid mewn rhyw fodd alw cymorth y Saint ato a hynny'n bur effeithiol.