Ar y llaw arall, os ydych chi'n credu yng ngwyrth creu'r byd, yn credu bod Duw wedi rhoi ei unig blentyn yn rhodd i geisio achub dynoliaeth, a chredu bod y Nadolig, boed y dyddiad yn gywir ai peidio, yn gyfnod o glymu hyn, a'r byd a'i bethau yn glosiach at ei gilydd, yna nid peth gwirion ydi meddwl bod gan pawb a phopeth ar wyneb y ddaear ran yn yr ŵyl.
Pa ateb oedd i amheuon felly oddieithr ceisio ymwroli a chredu'r gorau.
Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.
Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.
'Y cyfan ry'n ni'n gofyn amdano yw'r cyfle i fyw.' Methais â chredu geiriau un gŵr oedd yn gorfod dibynnu ar flanced yn unig i'w gysgodi rhag y tywydd.
Ni allaf beidio a chredu fod y ffordd y mae Waldo'n defnyddio'r gair 'awen' yn arwyddocaol ac yn ystyrlon.
Mae'n syndod pa mor niferus yw'r rhai sy'n tybio y gallant berthyn i eglwys ar eu telerau eu hunain a chredu beth a fynnont, heb ystyried beth yw gofynion Iesu Grist.
Chwedl Idris Davies: Bron, bron a chredu, ond yn cael pethau'n anodd enbyd.
Cafodd ei threisio ganddo ac er mawr siom i Karen penderfynodd y llys beidio â'i chredu.
"Paid â chredu y bydd e'n edrych ddwywaith arnat ti,' meddai Guto'n llawn cenfigen.
Methai Geraint â chredu'i lygaid.
Ymddengys mai dysgeidiaeth i'w chredu oedd Cristionogaeth, a deddf i'w chadw.
Y profiad oedd fy mod yn teimlo'n gorfforol (a pheidied neb â chredu mai pen chwyddedig oedd gennyf am fy mod yn credu o ddifrif fy mod wedi cyflawni camp) .
Peidiwch â chredu'r hyn 'da chi'n darllen yn y papurau...
Cwblhaodd Ieuan Gwynedd ei gerdd olaf - a'i orau - dridiau cyn ei farwolaeth ac anodd peidio â chredu nad yw 'Cân y Glo%wr' yn tystio'n groywach i realiti bywyd yng Nghymru na 'Bythod Cymru'.
Fedra i ddim llai na chredu fod profiad aelodau Sinn Féin o weld mudiad di-draisyn ennill hawliau ieithyddol a chydraddoldeb diwylliannol i siaradwyr wedi mynd peth o'r ffordd i ddangos iddynt nad oes raid wrth drais i ennill bob amser.