Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chreu

chreu

Rhyw ystum i gyfeiriad moderniaeth yw'r rhain oll, yn ymdeimlo a'r angen am dorri allan a chreu rhywbeth newydd, ac eto'n anabl i wneud hynny.

Dyma'r ardd fotaneg fawr gynta i'w chreu ym Mhrydain ers dros ddwy ganrif.

Credent fod yr holl adroddiad, oherwydd y dewis o Ddirprwywyr a chynorthwywyr, yn rhan o gynllwyn bwriadol i hyrwyddo amcanion Pwyllgor y Cyngor dros Addysg, a chreu cyfundrefn addysg wladwriaethol a fyddai'n hybu egwyddorion yr Eglwys Sefydledig.

Gallai hynny dynnu sylw'r milwyr a chreu trafferthion i'r teulu'n ddiweddarach.

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Os ydych chi am weld un o olygfeydd hardda natur sy wedi cael ei chreu gan law dyn, yna ewch i weld Cloc Blodau mewn parc neu mewn gardd gyhoeddus sy'n perthyn i dre fawr.

Dau sy'n sefyll yn y cof yn arbennig yw Philip Jones, Porthcawl a Morgan Griffith, Pwllheli; er y byddai Mam yn dweud mai defnyddio plant fyddai Philip Jones i ddangos ei hun a chreu difyrrwch i'r oedolion.

Gwnaeth yr obsesiwn gyda chreu cystadleuaeth ddinistrio llawer o'r adrannau o'r gwasanaeth addysg Gymraeg.

Bwriadent integreiddio eu poblogaethau cymysg a chreu teyrngarwch cytu+n.

Yr oedd tasg anferth o fawr o flaen y pwyllgor; trefnu ymgyrch trwy bob rhan o Gymru i oleuo ac addysgu a chreu argyhoeddiad ac at hyn trefnu'r gwaith manwl o fynd a ffurflen y Ddeiseb o dŷ i dŷ, nid yn y pentrefi Cymraeg yn unig ond hefyd yn yr ardaloedd poblog a Seisnig yn Sir Fynwy (Gwent erbyn hyn), Morgannwg a mannau eraill.

Y mae angen arian o CCC i'w rannu rhwng y cwmniau â'r canolfannau i farchnata a chreu cynulleidfa.

Pwysleisia Angharad Dafis yn ddiddorol iawn mai: Diben creu Wil James yw dangos na ellir chwalu'r hen drefn a chreu trefn newydd sosialaidd o fewn i'r werin ei hun.

Cafodd y sioe Campws ei chreu ai pherfformio gan y don gyfredol o dalent yn y coleg.

Ryw ddydd, efallai, byddai'n ddigon cyfoethog ei hun, gan ei fod yn dechrau casglu symiau go fawr erbyn hyn a chreu cysylltiadau elwgar ym mhlith brodyr ariannog y deyrnas - gwobrau llwgr ei swydd.

Ond, fe garwn i eich cyflwyno i lên gwerin sydd yn fyw ac yn iach heddiw, sydd yn cael ei chreu a'i chynnal yn ein cymdeithas a'n diwylliant cyfoes.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Naws acwstig sy'n cael ei chreu i gydfynd a neges y gân.

Gwerth y Pecyn Hwn i Chi Bwriad y pecyn hwn yw eich helpu chi yn y gwaith o drefnu addysg ddwyieithog a chreu ymwybyddiaeth yn athrawon eraill yr ysgol o sut y gallai: y defnydd a wneir o iaith hybu dealltwriaeth o bwnc a sut y gallai pwnc helpu i ddatblygu iaith, yn arbennig yr ail iaith.

Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb ar fyrder i'r bygythiad sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru a chreu strategaeth gadarnhaol newydd a fydd yn diogelu eu dyfodol.

Gweledigaeth y Cynulliad Cenedlaethol yw gweithio fel 'bydd y Gymru yr ydym yn ei chreu nawr yn wlad well i fyw a gweithio ynddi yn y dyfodol.'

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn ymrwymedig i gynorthwyo busnesau presennol i ehangu a ffynnu ac annog mewnfuddsoddiad, adleoli diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru.

Maen ymddangos mair unig beth syn peri oedi ynglyn â chreu y rhain yw na all neb benderfynu pa liw ddylen nhw fod.

Yn yr achos hwn nid oedd Cyngor Sir Benfro wedi gwneud unrhyw ymchwil i bosibiliadau erail, fel hybu cydweithio rhwng ysgolion a chreu ffederasiynau.

Y mae celfyddyd ysgrifennu a chreu unrhyw fath o lenyddiaeth yn ffrwyth hyfforddiant o fath gwahanol i'r hyn a geid yn yr ysgol Sul.

Mae'r papur hwn yn edrych ar faterion sy'n ymwneud â chreu a chadw gwaith yn y sectorau diwydiannol ac adwerthu.

Maen gyfle hefyd i'r bechgyn na whariodd ddydd Sadwrn i anelu at yr un math o safon a chreu yr un argraff ar Graham Henry, Lee Jones a Geraint John ag a wnaeth y 22 oedd wedi chware erbyn diwedd y gêm honno.

Anghenraid cyntaf y gymdeithas genedlaethol Gymreig yw gwladwriaeth; ni ellir ei chreu'n heddychlon heb weithredu gwleidyddol cwbl benderfynol.

Mae'n debyg mai amatur o'r enw Henry Crabb Robinson oedd y gohebydd tramor cynta' a'i yrfa yntau wedi ei chreu gan ryfel.

Ein gobaith yw y bydd i'r ddarlun hon o Gymru 2000 sbarduno'n pobl i weithredu i atal y tueddion hyn a chreu dyfodol newydd i'n gwlad.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Yn awr, fel ag ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae arnom angen pobl sy'n fodlon gweithio a chreu cyfoeth i'r Almaen gyfan.

Roedd yna ryw synau rhyfedd o'i gwmpas bob amser; byddai'n anadlu'n hyglyw, ddrafftiog, yn ogystal â chreu sŵn sipian yn ei fochau, fel petai ar ganol cnoi'n wastadol.

Bellach mae bron pob plentyn ysgol yn dysgu rhywfaint o bynciau o leiaf trwy gyfrwng yr iaith ac mae rhaglenni uchelgeisiol i newid iaith y gweithle, iaith gweinyddiaeth, iaith y gymuned a chreu cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol.

Danfonwyd milwyr i gymoedd glofaol Deheudir Cymru i gadw trefn a chreu ofn - penderfyniad gormesol a gysylltir yn arbennig a Winston Churchill.

Bu'r diwydiant llechi yn rhan bwysig o fywyd yr ardal - gan sicrhau gwaith a chreu cymunedau.

Cawsant eu magu mewn cymdeithas a oedd wedi'i chreu gan y genhedlaeth sydd yn awr yn cymryd arnynt nad ydynt yn deall lle cafodd y plant eu heidioleg.

Yn ogystal â'r ddesg gymysgu arbennig sydd ar gael yn barod, sy'n eich galluogi i gymysgu a chreu eich jingls eich hunain, bydd cyfle hefyd yn ystod yr wythnosau nesaf i chi ddefnyddio'r meddalwedd diweddaraf un.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir yn tynnu sylw at swydd newydd a fwriedid ei chreu yn y dyfodol agos gyda chymorth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop sef Swyddog Rheilffordd Cymuned.

Y mae a wnelo llawer o ddysgeidiaeth Crist â chreu cymdogaeth dda lle y mae cariad rhwng cymdogion.

Wedi ymdrech a barhaodd am flwyddyn, a chreu chwerwder mawr, daeth streic y glowyr i ben ym mis Mawrth.

Wrth 'go iawn' fe olygid nofelydd a allai hoelio sylw cynulleidfa, trwy adrodd stori afaelgar, llunio deialog fyrlymus a chreu cymeriadau amrywiol 'o gig-a-gwaed', fel y dywedir - nofelydd a oedd yn gyforiog o'r rhinweddau henffasiwn, os mynnir.

Mae Caravan Holiday, ar y llaw arall, yn arwydd o'r naws acwstig y gall Stereophonics ei chreu, ac yn bersonol fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cael clywed mwy o'r math yma o beth.

Mae'n bwysig ein bod yn edrych yn ôl ac ymlaen ac yn cadw'r hen a chreu'r newydd, meddai Garry Davies, Pennaeth Marchnata.

Fe yw'r rheolwr y tro yma ac yn ddios bydd e'n arwain dewis terfynol Graham Henry gyda'r gobaith o greu'r un anian a chreu Llewod llwyddiannus.

Ond mae hyn yn enghraifft berffaith o'r angen i ymateb i'r her a chreu trefniadau cadarnhaol newydd i alluogi ysgolion pentref i gyflawni eu gorchwylion yn effeithiol.

Dyma'r math o drefn yr amcana'r cenedlaetholwyr mewn llawer gwlad at ei chreu.

Nid at Rwsia garpiog y mae troi am help i hybu masnach a chreu cyfalaf i brynu ac adnewyddu nwyddau sylfaenol i'r economi.

Mae Dewin yn gwmni sy'n arbenigo ar bob agwedd o ddelio â chyfrifiaduron - gan gynnwys trin a thrafod systemau, cronfeydd data, cynnal a chadw systemau cyfrifiadurol cwmniau cyfan, a chreu safleoedd gwe syml a chymhleth.

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.