Mae hefyd wahaniaethau mawr rhwng ffisioleg croen pysgodyn a chroen yr amffibiad.
Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref.
Yr oedd ei chroen braidd yn dywyll.
Daeth i gof Mali yr achlysur pan welodd Dilys yn dda i ganmol siwt goch a wisgai Mali gan ddweud ei bod yn rhoi lliw iddi; amheuai Mali mai awgrym oedd hynny fod ei chroen yn ddiliw heb gymorth y siwt.
Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.
Roedd hi wedi plastro rhyw stwff gwyn anghynnes ar ei chroen cyn mynd i'w gwely ac edrychai ei phen fel coedwig o gyrlars pigog.
Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.
Roedd gorfod dioddef ei merch yn ei thendio am y cyfnod hwnnw wedi bod yn dân ar ei chroen, ac yn waeth na hynny, gwrthododd Edith a'i gŵr ddod â hi adref nes ei bod wedi gwella'n llwyr.
Tasgodd cudynnau o wallt gwinau hardd o'i phen, toddodd ei sbectol i ddangos pâr o lygaid sionc, esmwythodd ei chroen fel cotwm dan hetar, diflannodd y crychau, a daeth rhwy wytnwch newydd i'w chorff.
A pha laethwr ffyddiog a allasai wrthsefyll y fath ben a chroen a phwrs - holl deithi amlwg Seren?
O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.