Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chroesi

chroesi

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

Afon hardd, gyda nifer o bontydd tarawiadol yn ei chroesi.

Yna cododd a chroesi at y ddesg lydan yng nghongl yr ystafell.

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

Roedd Arabrab ei wraig yn gyfoethog iawn, a'i safle ef fel Swyddog Cynllunio (swydd fach reit hwylus a digon di-straen) yn dibynnu arni hi i raddau helaeth, ac ni allai fentro'i chroesi.

Ni chaiff cerbydau ei chroesi, a daw'r ymwelwyr yno'n llu ar eu ffordd o'r hen dref i fyny i'r castell ar ochr arall yr afon.

Cychwyn o Lanelwedd a chroesi'r bont dros afon Gwy i Lanfair-ym-Muallt.

Ar ôl cerdded am awr fe weli afon Glasddwr yn y pellter a phont gaerog yn ei chroesi.