Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.
Mi gymrodd dipyn o amser i'w gwneud rhwng hel bocsus o siopa'r pentre a bod amser y brawd oedd yn y chweched dosbarth yn yr 'ysgol ganolraddol' yn brin, a hefyd nad oedd yr arfau þ lli a morthwyl a spocshef a chþn coed ddim llawer iawn gwell na'r arfau oedd gan y Bardd Cocos yn gwneud trol þ lli a chryman a morthwyl oedd ganddo fo.