Roedd chwys yn ddafnau ar ei dalcen plorynnog.
Am ganrif gyfan bu mil oedd o weithwyr dan yr hen drefn yn trethu eu nerth a cholli llawer o chwys, a daethai'r cyfnod hwnnw i ben.
Dim ond 'i chario yn fy llaw a cheisio edrych fel pe bawn i newydd 'i thynnu i sychu chwys oddi ar fy nhalcen.
Llifai ei chwys yn ffrwd oer i lawr ei gorff oherwydd pwysau'r bêl, ei ymdrech a'i ofn.
Sychodd y chwys berw o'i dalcen â hances fawr.
Trodd yn disgwyl gweld Twm Tew yno, ond y cyfan a welodd Guto oedd Bob Parri, yn dod o'i ymarfer wrth y rhwydau, ei wallt yn chwys i gyd a'i grys yn batsys llaith.
Deffrôi o'i weledigaeth yn nynfder nos a'i gorff yn chwys oer drosto.
Yna ymhen rhai wythnose, fe alwodd Jac yn tŷ ni, yn chwys drabŵds i gyd.
Yn crynu ac yn chwys i gyd, mi edryches lan, a dyna lle'r oedd mistir yn hongian wrth drawst, a'i dafod allan a'i ddau lygad ar agor yn rhythu arna i.
ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.
Mae o wedi cael mwy o ferched nag wyt ti wedi eu gweld o gerrig beddau.' Teimlodd Dei y dillad yn cydio yn ei gorff oherwydd y chwys oer oedd yn ei gerdded.
Funudau'n ddiweddaach, wedi ymlâdd ac yn foddfa o chwys, roedd y fforiwr allan o'r ogof - ac yn paratoi i nodi ei lleoliad ar ei fap.
Mae taclau gwraig weddw yn benigamp am worn out tools fel ag y mae chwys plismon am rywbeth prin iawn er y gellid fod wedi ychwanegu mor brin â chachu ceffyl pren ato.
Roeddwn yn laddar o chwys.
Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...
Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.
Roedd gwahoddiad i chwech ohonom i'w sosial, ac aethom mewn hen Austin oedd gan Dic Tyddyn Bach, pedwar ohonom fel sardines yn y tu ôl ac yn chwys diferol.
Cerddodd hwnnw'n gyflym gyda chamau bychain siarp a sefyll o flaen Dei tra y sychai hwnnw'r chwys oedd ar gledrau ei ddwylo.
Aeth Thomas cyn belled â phadog y cesyg magu i chwilio, ond y cwbwl a welodd yno oedd bod rheini wedi'u dychryn i ffitiau, eu llygaid yn llydan agored ac yn laddar o chwys pob un.
Ffoniodd cymydog atom ni'r meddygon yn y dref Gwyddai hwnnw fod Bob yn gorfod gwrando ar ei frawd yn griddfan ddydd a nos, a bod ei gorff yn berwi o chwys drwy'r amser.
Cyrraedd i gopa'r llosgfynydd ei hun tua hanner awr wedi tri, yn chwys diferu a'm llwnc fel ffwrn grasboeth.
Ein hymdrech mewn addysg, Ein chwys mewn gwaith, Ein gwaed mewn brwydr, - os oes angen.
Collodd pob un o chwaraewyr Llanelli o gwmpas hanner stôn o bwyse yn ystod y gêm honno, wrth i'r chwys lifo oddi arnon ni.
Mae nifer o fawnogydd bychain yn gwpannau llaith rhwng y creigiau ac yn hafan i chwys yr haul Drosera rotundifolia, tafod y gors - Pinguicula vulgaris, a phlu'r gweunydd - Eriophorum angustifolium.
Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .
Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.
Crynhôdd dafnau o chwys fel gwlith ar ei dalcen Symudodd yn sydyn yn ei gadair a rhoddodd hergwd i'r gath nes ei bod yn sgrialu ar hyd y llawr cerrig.
Yn aml, mae Bob yn cyfeirio at Tasmania fel gwlad y chwys.
Mae rhywun mewn chwys oer yn ofni a ddigwydd rhywbeth tebyg yma y flwyddyn nesaf.
Roedd e mewn car, ac Adam yn gyrru - neu o leiaf yn ceisio gyrru - a'r chwys yn rhedeg i lawr ei wyneb, gan lifo dros gyhyrau oedd yn tynhau ac ymlacio am yn ail.
Dillad hefo enwau dieithr fel jîns a thrainers a chrysau chwys.
Gwelai Geraint ben ac ysgwyddau tywyll yn ymddangos o'r cysgodion, ac aeth chwys oer drosto.
Safai darnau o chwys bron yn herfeiddiol ar ei wyneb, ac roedd ei ddyrnau bron yn wyn wrth ddal y llyw'n dynn.
Ar droad y ganrif yr oedd llafur a'i natur yn wahanol - caib, rhaw, ceffylau a chwys wyneb oedd tu ôl i waith yr Alwen.