"Ond faswn i ddim yn licio i neb gael cyfla i intyffirio hefo o'ch blaen chi." Ac ar ôl hynny, y fi oedd y dyn i gyd, all the rage, chwadal nhwtha, a fynna hi neb i fynd â hi i'r Disco ond y fi, ac yno y buon ni tan yr oria mân.
Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.